Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi enwi ei garfan i wynebu’r Eidal ddydd Sadwrn (Chwefror 1).

Bydd George North yn ennill ei 92ain cap yn safle’r canolwr allanol, gyda Johnny McNicholl yn ennill ei gap cyntaf ar yr asgell.

Mae’n bosib y bydd canolwr y Saracens Nick Tompkins yn ennill ei gap cyntaf i Gymru ar ôl cael ei enwi ar y fainc. 

Tomos Williams fydd yn dechrau’n safle’r mewnwr.

Bydd Taulupe Faletau yn dychwelyd i chwarae ei gêm ryngwladol gyntaf ers bron i ddwy flynedd yn safle’r wythwr.

Mae Aaron Wainwright a Justin Tipuric yn ymuno â Taulupe Faletau yn y rheng ôl, gyda blaenasgellwr Gleision Caerdydd Josh Navidi yn methu dechrau’r bencampwriaeth gydag anaf.

Gyda Tomas Fracis wedi’i anafu, Dillion Lewis fydd yn dechrau yn safle’r prop pen tyn ynghyd deuawd y Scarlets Wyn Jones a Ken Owen yn rheng flaen.

Jake Ball ac Alun Wyn Jones fydd yn dechrau yn yr ail reng.

“Dwi’n hapus efo’r garfan ac yn edrych ymlaen at y penwythnos,” meddai Wayne Pivac.

“Mae’n wych bod Johnny McNicholl yn ennill ei gap cyntaf. Dw i’n meddwl ei fod o wedi chwarae’n dda iawn yn erbyn y Barbariaid felly mae’r penwythnos hwn yn gyfle gwych iddo fo.”