Thierry Dusautoir
Er gwaethaf colli o bwynt yn erbyn y Crysau Duon yn rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd, mae capten Ffrainc Thierry Dusautoir wedi ei enwi’n chwaraewr y flwyddyn gan fwrdd rhyngwladol rygbi yr IRB.
Cynhaliwyd y seremoni yn Auckland neithiwr a dewiswyd yr enillwyr gan banel o gyn chwaraewyr rhyngwladol wedi eu cadeirio gan gyn glo a chapten Awstralia, John Eales.
Roedd y panel wedi edrych ar bob gem brawf rhyngwladol yn 2011, gan ddechrau gyda chystadleuaeth y Chwe Gwlad a gorffen â Chwpan y Byd.
O dan arweiniad Dusautoir fe orffennodd Ffrainc yn ail ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Er iddynt golli dwy gêm yn eu grŵp i Seland Newydd a Tonga fe arweiniodd ei wlad i’r rownd derfynol gan drechu Lloegr a Chymru ar y ffordd.
Er i nifer ddarogan gem un ochrog o blaid Seland Newydd yn y rownd derfynol, fe brofodd y Ffrancwyr eu bod yn medru codi i her y Crysau Duon gan ddechrau gyda’i ymateb i’r Haka.
Bu Dusautoir yn ddidrugaredd yn ei waith amddiffynnol ac angerddol wrth gario’r bêl dros ei dîm gan sgorio cais yn y gêm honno. Mae hefyd wedi bod yn allweddol i ymdrechion ei glwb Toulouse i ennill cynghrair y Top 14 y tymor yma.
Ef yw’r ail Ffrancwr erioed i ennill y wobr yma, yn efelychu camp Fabien Galthié yn 2002.
Llwyddodd i ennill y wobr o flaen Piri Weepu, Jerome Kaino a Ma’a Nonu o Seland Newydd, a David Pocock a Will Genia o Awstralia.
Fe enwyd cyn hyfforddwr Cymru, Graham Henry yn hyfforddwr y flwyddyn a Seland Newydd yn dîm y flwyddyn, i goroni eu buddugoliaeth yng nghystadleuaeth fwyaf y gamp.
Mae Graham Henry yn ymddiswyddo fel hyfforddwr Seland Newydd wedi cyfnod o chwe blynedd yn y swydd.
Dyma rhestr o gyn chwaraewyr y flwyddyn yr IRB:
2010 Richie McCaw, Seland Newydd
2009 Richie McCaw, Seland Newydd
2008 Shane Williams, Cymru
2007 Bryan Habana, De Affrica
2006 Richie McCaw, Seland Newydd
2005 Schalk Burger, De Affrica
2003 Jonny Wilkinson, Lloegr
2002 Fabien Galthié, Ffrainc
2001 Keith Wood, Iwerddon