Gohebydd clwb Abertawe, Guto Llewelyn sy’n edrych nol ar siom ei dîm yn erbyn Wolves ddydd Sadwrn.

Cyn y penwythnos yma, Abertawe oedd yr unig glwb yn y Brif-gynghrair heb bwynt oddi cartref. Siomwyd pawb gan berfformiad llipa wythnos ddiwetha yn erbyn Norwich, er Wolves oedd y clwb perffaith i chwarae nesa. Yn dilyn dechrau disglair i’r ymgyrch roedd tîm Mick McCarthy wedi colli pump gêm yn olynol, yn cynnwys derby lleol yn erbyn West Brom wythnos ddiwetha.

Heidiodd miloedd o gefnogwyr yr Elyrch i gêm oddi cartref agosa’r tymor. Cyn y gêm roedd yn amlwg bod y ddau set o gefnogwyr yn nerfus. Nid oedd llawer o ganu nes i’r chwaraewyr ymddangos o’r twnnel (er lleisiodd cefnogwyr Abertawe eu barn am Dorus De Vries, y golwr a adawodd Abertawe yn yr haf er mwyn ymuno â Wolves).

Yr ymwelwyr ddychwelodd orau, gyda chwaraewyr canol-cae Abertawe’n rheoli’r meddiant a cheisio bwydo’r triawd talentog; Dyer, Sinclair a Graham. Pleser oedd gweld Mark Gower nôl yn y tîm, ac yn dylanwadu ar y chwarae.

Abertawe oedd yn gwthio’n gynnar, gyda thraed cyflym a chroesiadau isel Nathan Dyer yn creu byd o broblemau i amddiffynwyr bregus y Bleiddiaid.

Ar ôl 23 munud sgoriodd Abertawe gôl arbennig. Cododd Gower y bêl yn berffaith dros linell amddiffynnol dyn Wolves. Dim ond un dyn oedd yn disgwyl y fath bas odidog: Danny Graham. Amserodd Graham ei rhediad i’r dim, rheolodd y bêl a mesurodd ei ergydiad. Roedd Abertawe ar y blaen diolch i weledigaeth anghredadwy Gower a Graham. Dyma oedd drydedd gôl Graham mewn tri gêm.

Mae’n gysur gweld Graham yn sgorio ar ôl dechrau anffrwythlon i’r tymor i’r ymosodwr. Er mae cyfraniad Graham i’r tîm llawer yn fwy na goliau, a profwyd hynny ddydd Sadwrn ar ôl 35 munud.

Mae egni Graham yn gymorth mawr i’r tîm. Nid yw erioed yn blino ar gwrso amddiffynwyr a’u gwasgu pan fyddant â’r bêl. Pan taw Abertawe sydd â’r bêl mae bob amser yn awyddus i’w dderbyn. Ychydig cyn hanner amser roedd Graham yn rhydd i lawr yr asgell dde diolch i bas gyfrwys Rangel. Dim ond cyn-addiffynwr Caerdydd, Roger Johnson oedd yno i’w wrthwynebu. Pwyllodd Graham a sylwodd fod Joe Allen ar ei ben ei hun yn y cwrt cosbi. Pasiodd y bêl i Allen, a sgoriodd y Cymro ifanc heb lawer o drafferth.

Felly ar hanner amser ymddangosodd fel petai Abertawe’n rheoli ‘r gêm.

Ar ddechrau’r ail-hanner roedd yn amlwg bod y Bleiddiaid ar chwâl. Parhaodd Gower ac Allen i sgleinio yn yr heulwen hydrefol. Creodd Abertawe nifer o gyfleoedd, er llwyddodd gôl-geidwad Cymru, Wayne Hennessey, i gadw Wolves o fewn cyrraedd i’r Elyrch.

Gwylltiodd y cefnogwyr cartref, yn enwedig ar ôl i McCarthy eilyddio’i ddau asgellwr, Jarvis a Hammill, am ddau chwaraewr canol-cae, Guideoura a Miljas. Canodd y cefnogwyr Wolves “you don’t know what you’re doing” gan bwyntio’u bysedd at McCarthy. Yn anffodus i Abertawe, roedd McCarthy’n gwybod yn union beth oedd yn gwneud.

Newidiodd drywydd y gêm ar ôl i Jarvis a Hammill adael y cae, er mae’n bosib roedd eilyddiad cyntaf Abertawe yn gymaint o drobwynt â rhai Wolves. Roedd Leon Britton wedi amddiffyn ei amddiffynwyr drwy gydol y gêm, er penderfynodd Brendan Rodgers ei dynnu o’r cae gyda chwarter awr yn weddill er mwyn rhoi gêm i Andrea Orlandi.

Collodd Abertawe eu gafael ar y gêm.

Am yr ail wythnos yn olynol methodd Abertawe gael gwared o bêl yn dilyn cic gornel. Arbedodd Michel Vorm yn wych o gynnig y cawr Cymraeg, Sam Vokes, er roedd y  Gwyddel, Doyle, mewn safle perffaith i sgorio i Wolves.

Dim ond 6 munud oedd yn weddill er tro’r Elyrch oedd hi i chwalu. Magu gobaith wnaeth gôl Doyle, ond dwy funud yn hwyrach roedd Wolves yn gyfartal. Ni ail-drefnodd Abertawe, a galluogwyd Miljas i groesi o’r chwith. Rhwydodd O’Hara diolch i ergydiad nerthol.

Siom eithriadol i Abertawe ar ôl rheoli’r gêm, er gallai pethau fod wedi gwaethygu ymhellach. Gyda’r dorf yn gefnogol unwaith eto, ceisiodd Wolves sgorio gôl arall, er ni ddaeth y gôl fuddugol.

Dyma oedd pwynt cyntaf yr Elyrch oddi cartref yn y Brif gynghrair, er roedd pawb yn ymwybodol dylai’r cefnogwyr fod wedi bod yn dathlu triphwynt.

Mae’n anodd esbonio chwalfa Abertawe yn erbyn Wolves. Roedd y chwaraewyr yn euog o gymryd y canlyniad yn ganiataol yn ystod yr ail-hanner. Ceisiodd rhai chwaraewyr driciau mentrus, pan ddylai’r tîm fod wedi ceisio lladd y gêm. Collodd Abertawe eu strwythr yn llwyr ar ôl i Britton adael y cae. Gobeithiaf gall Rodgers adnabod y camgymeriadau, neu mae’n annhebygol cawn weld yr Elyrch yn ennill oddi cartref tymor yma.