Lido Afan 0–0 Llanelli
Cafodd Lido Afan ganlyniad cartref canmoladwy iawn unwaith eto wrth lwyddo i ddal Llanelli i gêm ddi sgôr yn Stadiwm Marstons nos Wener.
Bu rhaid iddynt amddiffyn yn dda a dibynnu ar sawl arbediad da gan eu gôl-geidwad, Chris Curtis, ond roeddynt yn llawn haeddu’r pwynt yn y diwedd.
Arbedodd Curtis foli Chris Venables o chwe llath ac ymgais Chad Bond o ddwy lath wrth i Lanelli bwyso yn yr ail hanner.
Rhwng y ddwy ymdrech hynny gwnaeth Ashley Morris smonach yn y gôl i Lanelli wrth ddod allan o’i gwrt cosbi i geisio clirio’r bêl cyn ei methu hi’n gyfan gwbl a chyflwyno cyfle da i Mark Jones ond methodd yntau daro’r targed.
Ceisiodd Andy Legg, rheolwr 45 oed Llanelli bopeth i gael y gôl hollbwysig gan gynnwys dod ag ef ei hun ar y cae i roi pwysau ar amddiffyn Lido gyda’i dafliadau hir. Creodd un o’r tafliadau hynny gyfle da i Chris Llewelyn ond cliriwyd ei ymdrech oddi ar y llinell.
Roedd y pwynt yn ddigon i godi Llanelli i’r brig dros nos a’u rhoi yn yr ail safle ar ddiwedd y penwythnos, ond mae Lido Afan yn aros yn y degfed safle.
Airbus 2-1 Prestatyn
Buddugoliaeth bwysig i’r tîm cartref a gafwyd yng ngêm ddarbi y gogledd ddwyrain nos Wener wrth iddynt drechu Prestatyn o 2-1.
Rhoddodd Glen Rule Airbus ar y blaen wedi dim ond pum munud yn dilyn smonach amddiffynnol gan Brestatyn.
Ond roedd Prestatyn yn gyfartal ddeg munud yn ddiweddarach, Andy Mulliner yn methu ag ymdopi â’r perygl gwreiddiol ai ddyrniad yn disgyn yn syth i Ross Stephens ac yntau’n croesi’n gywir i Steve Rogers benio i gefn y rhwyd.
Methodd Mike Hayes gyfle hawdd ychydig cyn yr egwyl ac felly hefyd ychydig funudau wedi hanner amser.
Creodd Airbus ddigon o gyfleoedd a llwyddodd Gavin Cadwallader i gymryd un o’r rheiny wedi 68 munud, ei beniad o gic gornel yn un hollol hawdd ac Airbus yn ôl ar y blaen.
Dylai Airbus fod wedi ymestyn eu mantais ym munud olaf y gêm ond methodd Craig Whitfield o’r smotyn yn dilyn trosedd Martyn Beattie arno. Derbyniodd Beattie ail gerdyn melyn a cherdyn coch am y drosedd honno ond roedd y canlyniad yn saff pryn bynnag.
Mae Prestatyn yn aros yn chweched er gwaethaf y golled ac mae Airbus yn esgyn un lle i’r wythfed safle.
Bangor 2-1 Castell Nedd
Roedd gôl hwyr Peter Hoy a gôl hyd yn oed hwyrach Alan Bull yn ddigon i gipio buddugoliaeth gofiadwy i Fangor ar Ffordd Farrar yn erbyn un o’u prif elynion tua’r brig, Castell Nedd.
Caerfyrddin 0-1 Y Bala
Mae’r Bala’n parhau i fod o fewn cyrraedd y pedwar uchaf yn dilyn buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Caerfyrddin ar Barc Waun Dew brynhawn Sadwrn.
Gôl yr amddiffynnwr, Michael Byron hanner ffordd trwy’r ail hanner oedd unig gôl y gêm wrth i broblemau Caerfyrddin tua’r gwaelodion barhau.
Maent bellach wedi colli eu tair gêm ddiwethaf ac yn gorwedd ar waelod y tabl. Mae’r Bala ar y llaw arall yn aros yn bumed ac yn ymestyn eu mantais dros Brestatyn sydd yn y chweched safle i chwe phwynt.
Y Drenewydd 1-2 Aberystwyth
Llwyddodd Wyn Thomas i sgorio a chael ei ddanfon oddi ar y cae wrth i Aberystwyth gipio buddugoliaeth bwysig o 2-1 yn erbyn y Drenewydd ar Barc Latham brynhawn Sadwrn.
Agorodd Thomas y sgorio wedi wyth munud yn unig gyda foli daclus. Daeth Steve Blenkinsop yn agos i’w gwneud hi’n gyfartal ond clirwyd ei ymdrech ef oddi ar linell Aberystwyth gan Aneurin Thomas. Ond daeth gôl i’r Drenewydd ddau funud cyn yr egwyl, cic rydd Jamie Price yn dod o hyd i Max Penk wrth y postyn pellaf ac yntau’n penio i’r rhwyd.
Gwelodd Wyn Thomas ei ail gerdyn coch ef ac wythfed Aberystwyth y tymor hwn wedi 55 munud ond serch hynny aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn fuan wedyn diolch i gôl Jordan Follows toc wedi’r awr.
Ac felly yr arhosodd hi er i Aneurin Thomas a Follows gael cyfleoedd i sgorio eu hail goliau. Gorffennodd y Drenewydd gyda deg dyn hefyd wedi i Jermaine Johnston weld cerdyn coch chwarter awr cyn y chwiban olaf.
Mae hi’n hynod agos yn yr hanner gwaelod ac mae’r canlyniad hwn yn codi Aberystwyth ddau safle i nawfed tra mae’r Drenewydd yn disgyn tri lle i’r unfed safle ar ddeg.
Y Seintiau Newydd 3-2 Port Talbot
Roedd digon o goliau yng Nghroesoswallt brynhawn Sadwrn wrth i’r TNS drechu Port Talbot yn y diwedd o 3-2 yn Neuadd y Parc.
Rhoddodd Craig Jones TNS ar y blaen wedi deg munud gyda gôl gampus ond felly arhosodd hi tan yr egwyl er gwaethaf llu o gyfleoedd i’r tîm cartref.
Roedd hi’n ymddangos yn gyfforddus pan rwydodd Scott Ruscoe wedi 59 munud i’w gwneud hi’n 2-0. Ond roedd gan Bort Talbot syniadau arall a tharodd y Gwŷr Dur yn ôl gyda pheniad Paul Cochlin o gic rydd Lee John wedi 73 munud.
Ond sgoriodd TNS eu trydedd gydag wyth munud yn weddill, yr ymosodwr, Alex Darlington yn rhwydo.
Cafodd Oliver Bowen gôl gysur hwyr i Bort Talbot ym munud olaf y 90 ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi i’r ymwelwyr.
Dyw’r canlyniad ddim yn newid dim yn y tabl, mae’r Seintiau yn aros ar y brig a Phort Talbot yn aros yn seithfed.
Gwilym Dwyfor Parry