Mae prif hyfforddwr yr Eidal Franco Smith yn disgwyl i Gymru fod “yr un mor galed ac erioed” ar gyfer eu gornest ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Bydd Cymru’n herio’r Eidal yng ngêm agoriadol y twrnamaint ar Chwefror 2.
Bydd Cymru yn dechrau bywyd o dan Wayne Pivac wedi i Warren Gatland adael ar ôl 12 mlynedd wrth y llyw.
Ond dywed Franco Smith ei fod yn disgwyl gweld Cymru yn ymateb i golli yn erbyn De Affrig yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd.
“Fydd hi ddim wastad yn hawdd i Gymru, ond dwi ddim yn meddwl ei bod hi byth yn hawdd chwarae yn Stadiwm y Mileniwm,” meddai Franco Smith.
“Yn wir mae yno newid, ond rydym ni wedi newid hefyd, ac ar ôl eu perfformiad yn y rownd gynderfynol rydym yn mynd i fod yn herio tîm balch sydd eisiau creu argraff.
“Rydym yn disgwyl iddynt fod yr un mor galed ac erioed.”