Mae capten Cymru, Alun Wyn Jones, yn rhybuddio y bydd hi’n cymryd amser i addasu i steil o chwarae Wayne Pivac.

Bydd Wayne Pivac yn cymryd yr awenau am ei Bencampwriaeth y Chwe Gwlad gyntaf ar ôl i 12 mlynedd Warren Gatland wrth y llyw ddod i ben yng Nghwpan y Byd flwyddyn ddiwethaf.

Mae gan Wayne Pivac steil chwarae gwahanol i Warren Gatland a welwyd yn ei amser fel Prif Hyfforddwr y Scarlets.

“Mae’n mynd i gymryd amser ac allwn ni ddim cuddio oddi wrth hynny,” meddai Alun Wyn Jones.

“Ond os wyt ti’n parhau i edrych dros dy ysgwydd, ti ddim ond am arafu dy hun.

“Os yr ydym am ddatblygu, mae yno ambell beth ychwanegol mae’n rhaid i ni addasu iddynt, a dyna yw’r bwriad.”