Cafodd Louis Rees-Zammit, sydd yn wreiddiol o Gaerdydd, ei enwi’n chwaraewr y mis ym mis Rhagfyr yn Uwch Gynghrair Gallagher, ac ar ôl tymor cyffrous gyda Gloucester mae’r asgellwr 18 oed wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r clwb.“
Fy mreuddwyd yw cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol, fy mwriad yw parhau i weithio’n galed er mwyn cyflawni’r nod hwn, ynghyd â helpu Gloucester i lwyddiant,” meddai.
Gan mai dyma gytundeb cyntaf Louis Rees-Zammit mae dal i fod yn gymwys i’w ddewis i Gymru, er ei fod yn chwarae yn Lloegr.
Dyfodol Cyffrous iawn o’i flaen
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Gloucedter, David Humphreys, fod “dyfodol cyffrous iawn o’i flaen, os bydd yn parhau i weithio’n galed, gall brofi llwyddiant yn Gloucester ac yn y pen draw ar lefel ryngwladol gyda Chymru”.
“Er ei fod yn ifanc, mae gan Louis agwedd aeddfed iawn, parodrwydd i weithio’n galed, ac ymrwymiad i rygbi. Does gen i ddim amheuaeth bod ganddo yrfa addawol iawn o’i flaen.”
Bydd Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, yn enwi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad dydd Mercher (Ionawr 15)