Mae tîm merched Cymru wedi enwi carfan o 34 o chwaraewyr ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ymhlith y garfan mae un chwaraewr di gap, prop y Scarlets Ruth Jones ac un ar ddeg o chwaraewyr a enillodd eu capiau cyntaf yng nghyfres yr Hydref.

Yn absenoldeb y prif hyfforddwr Rowland Phillips, sydd yn cymryd amser o’r gêm, bydd Chris Horsman, Geraint Lewis a Gareth Wyatt a oedd yn gyfrifol am y tîm yng ngemau’r Hydref, yn parhau fel hyfforddwyr ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Cynnydd

Dywedodd Chris Horsman, “Rydym yn falch o’r cynnydd a wnaed yn ystod ymgyrch yr hydref, o’r fuddugoliaeth funud olaf yn erbyn Iwerddon, a pherfformiadau trawiadol wrth guro’r Alban a thîm y  Crawshays i berfformiad cryf yn yr ail hanner yn erbyn y Barbariaid.”

“Ein bwriad yn ystod ymgyrch yr Hydref oedd datblygu ein carfan, a chyflawnwyd hyn gyda 14 o chwaraewyr yn ennill eu capiau cyntaf.”

Yn dilyn gemau’r Hydref, Siwan Lillicrap sydd yn parhau i arwain y tîm cenedlaethol.  Yn ôl Chris Hosman,  fe ddangosodd “Siwan arweinyddiaeth ragorol yn ystod ymgyrch yr hydref a byddwn yn parhau i ddatblygu arweinwyr ymhlith y garfan yn ystod y twrnamaint.”

Nod hir dymor Chris Horsman yw parhau i ddatblygu’r garfan ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2021 sydd yn cael ei gynnal yn Seland Newydd.

“Rydyn ni 18 mis i ffwrdd o Gwpan Rygbi’r Byd 2021 ac yn dilyn y cynnydd a wnaed yn yr Hydref, ein nod ar gyfer y twrnamaint hwn yw parhau i gau’r bwlch rhyngom ni a thimau gorau’r byd”.

Blaenwyr:

Alisha Butchers, Alex Callender, Gwen Crabb, Georgia Evans,  Abbie Fleming, Cerys Hale, Lleucu George, Cara Hope, Natalia John, Manon Johnes, Kelsey Jones, Molly Kelly, Sarah Lawrence, Bethan Lewis, Ruth Lewis, Siwan Lillicrap, Robyn Lock, Gwenllian Pyrs

Cefnwyr:

Keira Bevan, Hannah Bluck, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Courtney Keight, Kerin Lake, Caitlin Lewis, Ffion Lewis, Lisa Neumann, Kayleigh Powell, Paige Randall, Lauren Smyth, Elinor Snowsill, Niamh Terry, Megan Webb, Robyn Wilkins