Bydd cyn-chwaraewr rygbi Cymru James Hook yn ymddeol ar ddiwedd y tymor pan fydd ei gytundeb gyda’r Gweilch yn dod i ben.

Sgoriodd James Hook 352 o bwyntiau mewn 81 cap i Gymru gan ennill dwy Gamp Fawr, tair Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ogystal â chwarae mewn tair Cwpan y Byd.

“Rwyf wedi cael llawer o uchafbwyntiau, ennill teitlau’r Gamp Fawr a Phencampwriaethau Chwe Gwlad a mynd ar daith y Llewod yn 2009,” meddai James Hook.

Fe dreuliodd chwe blynedd yn chwarae i Perpignan a Chaerloyw, ond dechreuodd a gorffen ei yrfa gyda’r Gweilch – ef sydd wedi sgorio’r ail fwyaf o bwyntiau i’r tîm erioed.

Llyfrau i blant

Mae wedi ysgrifennu cyfres o lyfrau i blant fydd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ond nid yw am droi ei gefn yn llwyr ar rygbi.

Dywedodd: “Dw i eisiau parhau i fod yn rhan o’r gêm, gweithio ar sgiliau yn benodol, fel dw i’n gwneud nawr gyda chwaraewyr ifanc, a dw i’n gobeithio gorffen fy nghymhwyster hyfforddi lefel 3.

“Mi fydd hi’n braf treulio amser gyda fy nheulu, fy nhri bachgen ifanc a fy ngwraig. Mae’n mynd i fod yn drist peidio chwarae ar ddiwedd y tymor, ond mae’n rhaid bod yn bositif a dw i’n edrych ymlaen at beth sydd i ddod nesaf.”