Fe fydd Mike Ruddock, cyn-brif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn Gyfarwyddwr Perfformiad y Gweilch tan ddiwedd y tymor.
Ymunodd e â’r rhanbarth fel ymgynghorydd ym mis Rhagfyr.
Mae’r tîm wedi colli 13 allan o 14 gêm y tymor hwn, ac maen nhw wedi cael amser cythryblus oddi ar y cae yn dilyn ymadwiad y prif hyfforddwr Allen Clarke.
Fe fu Carl Hogg a Matt Sherratt yng ngofal y tîm dros dro, ac fe fyddan nhw’n parhau yn eu swyddi am y tro.
Ond bydd Matt Sherratt yn gadael y rhanbarth am Gaerwrangon ar ddiwedd y tymor.
Mae’r capten Alun Wyn Jones wedi beirniadu’r ffordd mae’r rhanbarth yn cael ei reoli oddi ar y cae.
Gadawodd Mike Ruddock Glwb Rygbi Lansdowne a chwmni recriwtio Accorn yn Iwerddon er mwyn helpu’r Gweilch, ond doedd dim sicrwydd y byddai’n aros yn y tymor hir.
Gyrfa Mike Ruddock
Mae Mike Ruddock wedi dychwelyd i’r ardal lle cafodd e gryn lwyddiant gyda Chlwb Rygbi Abertawe yn y dyddiau amatur ac ar ddechrau’r oes broffesiynol ddiwedd y 1990au.
Ar ôl llwyddiant eto gyda rhanbarth y Dreigiau yng Ngwent, cafodd ei benodi’n brif hyfforddwr Cymru yn 2004 gan ennill y Gamp Lawn yn ei dymor cyntaf yn 2005.
Ar ôl gadael Cymru ddechrau 2006, treuliodd e dri thymor gyda Chaerwrangon rhwng 2007 a 2010.
Cafodd ei benodi wedyn yn brif hyfforddwr tîm dan 20 Iwerddon ar ôl dychwelyd i’r wlad lle cafodd ei wraig ei geni.