Mae Rhys Webb yn dweud ei fod e’n teimlo’r “rhyddhad” wrth ail-ymuno â’r Gweilch ar ôl gadael clwb Toulon.
Bydd y mewnwr yn dychwelyd i Stadiwm Liberty y tymor nesaf ar ôl llofnodi cytundeb dwy flynedd gyda’r rhanbarth, gan adael y clwb yn Ffrainc flwyddyn yn gynnar.
Treuliodd e ddegawd gyda’r Gweilch cyn troi ei gefn ar ei obeithion o chwarae dros Gymru yn sgil polisi Warren Gatland o ddewis nifer penodol o chwaraewyr sy’n chwarae i glwb y tu allan i’r wlad.
“Mae jyst yn wych cael dod yn ôl i le dechreuodd rygbi fi,” meddai.
“Dw i wir yn edrych ymlaen at yr her ac at frwydro i ennill crys y Gweilch eto.
“Dw i wedi bod wrth fy modd yn Toulon ond mae’n rhyddhad cael dod adref i’r Gweilch, dyma lle mae fy nheulu, lle ces i fy magu a lle dechreuodd rygbi i fi.
“Mae cael dychwelyd i chwarae i fy rhanbarth yn beth arbennig iawn i fi a dw i mor ddiolchgar am y cyfle i allu gwneud hynny eto.”
Gyrfa gyda’r Gweilch
Cyn mynd i Ffrainc, chwaraeodd Rhys Webb 154 o weithiau i’r Gweilch, gan sgorio 39 o geisiau sy’n ei roi’n bedwerydd ar restr prif sgorwyr pwyntiau’r rhanbarth.
Daeth ei gêm gyntaf i’r rhanbarth yn erbyn Ulster ym mis Mawrth 2008, ac mae e bellach wedi ennill 33 o gapiau dros Gymru. Chwaraeodd e mewn dwy gêm brawf fel eilydd i’r Llewod yn Seland Newydd yn 2017.
“Mae pob un ohonom yn y Gweilch wrth ein boddau fod Rhys wedi penderfynu dod adref,” meddai Andrew Millward, Rheolwr Gyfarwyddwr y rhanbarth.
“Mae e’n fewnwr o safon fyd-eang ac mae e wedi profi hynny gyda’r Gweilch, Cymru, Toulon a’r Llewod, ac mae cael dod â fe adref yn rhywbeth y dylai pob un ohonom fod yn falch ohono.”