Mae Sam Surridge wedi dychwelyd i Glwb Pêl-droed Bournemouth ar ôl cyfnod ar fenthyg yn Abertawe.

Ymunodd yr ymosodwr 21 oed â’r Elyrch ar fenthyg am dymor cyfan yn yr haf, ond roedd gan ei brif glwb yr opsiwn i’w alw’n ôl, ac maen nhw wedi gwneud hynny yn dilyn anafiadau i nifer o chwaraewyr.

Sgoriodd e saith gôl mewn 23 o gemau i’r Elyrch, ac fe gafodd ei alw i garfan dan 21 Lloegr yn ddiweddar yn sgil ei berfformiadau.

Mae disgwyl i Steve Cooper, rheolwr Abertawe, chwilio am ymosodwr arall yn ei le wrth i’r ffenest drosglwyddo agor heddiw (dydd Mercher, Ionawr 1).

Mae’r clwb wedi diolch i Sam Surridge am ei ymdrechion.