Gweilch 16–19 Gleision

Cais ail hanner Jarrod Evans a chic gosb hwyr Jason Tovey a enillodd y gêm i’r Gleision wrth iddynt drechu’r Gweilch ar y Liberty yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Roedd y gêm yn gyfartal gyda deg munud yn weddill ond roedd tri phwynt hwyr Tovey yn ddigon i gipio’r fuddugoliaeth i’r ymwlewyr.

Ciciau cosb a oedd unig bwyntiau’r hanner awr cyntaf, un gan Marty McKenzie i’r Gweilch a dwy gan Jarrod Evans i’r Gleision.

Collodd yr ymwelwyr o’r brifddinas eu disgyblaeth wedi hynny gyda dau chwaraewr yn cael eu hanfon i’r gell gallio.

Gwelodd Filo Paulo gerdyn melyn am drosedd beryglus ar Hanno Dirksen cyn i Tomos Williams ymuno ag ef yn y gell yn dilyn tacl beryglus ar Dan Lydiate.

Arweiniodd y drosedd honno at gais cosb hefyd a’r Gweilch a oedd ar y blaen wrth droi, 10-6 y sgôr.

Cyfnewidiodd McKenzie a Tovey gic gosb yr un ar ddechrau’r ail hanner cyn i’r Gleision fynd ar y blaen gyda chais taclus. Mae cic Tomos Williams dros yr amddiffnh i Jarrod Evans yn dacteg sydd wedi gweithio i’r Gleision ar sawl achlysur dros yr wythnosau diwethaf ac fe weithiodd eto yn Abertawe.

Rhoddodd trosiad Tovey yr ymwelwyr dri phwynt ar y blaen ac er i McKenzie unioni pethau gyda’i drydedd cic gosb fe enillodd Tovey’r gêm i’r Gleision gyda chic lwyddiannus arall saith munud o ddiwedd yr wyth deg.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision i’r pumed safle yn nhabl adran B ond mae’r pwynt bonws yn ddigon i godi’r Gweilch o waelod adran A hefyd.

.

Gweilch

Ceisiau: Cais Cosb 33’

Ciciau Cosb: Marty McKenzie 5’, 49’, 64’

.

Gleision

Cais: Jarrod Evans 60’

Trosiad: Jason Tovey 61’

Ciciau Cosb: Jarrod Evans 19’, 26’, Jason Tovey 56’, 73’

Cardiau Melyn: Filo Paulo 31’, Tomos Williams 33’