Dreigiau 22–20 Scarlets

Enillodd y Dreigiau gyda chic olaf y gêm wrth iddynt groesawu’r Scarlets i Rodney Parade yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Roedd Bois y Sosban ar y blaen wrth i’r cloc droi’n goch ar noson wlyb yng Nghasnewydd ond y tîm cartref a aeth â hi diolch i dri phwynt hwyr y maswr, Davies.

Ciciau cosb a oedd unig bwyntiau’r chwarter cyntaf, Davies yn llwyddo gyda tair i’r Dreigiau a Leigh Halfpenny’n trosi un i’r Scarlets.

Cafodd y gŵyr o’r gorllewin gyfnod da wedi hynny, yn mynd ar y blaen gyda dau gais mewn cyfnod o bum munud. Bylchiad nodweddiadol o fôn sgrym gan Gareth Davies a oedd y cyntaf a hyrddiad effeithiol gan y blaenwyr a wthiodd Ken Owens drosodd am yr ail.

Cafwyd ymateb da gan y Dreigiau cyn yr egwyl serch hynny a dim ond pwynt a oedd ynddi wedi i Davies drosi cais Rhodri Williams, 16-17 y sgôr wrth droi.

Ni chafwyd rhagor o geisiau yn yr ail hanner ond roedd digon o gyffro yn y deg munud olaf. Rhoddodd cic gosb Davies y Dreigiau ar y blaen cyn i Halfpenny adfer mantais y Scarlets gyda chic gosb bedwar munud o’r diwedd.

Cafodd Davies gyfle i’w hennill hi gyda chic gosb arall i’r Dreigiau ddau funud yn ddiweddarach ond anelodd heibio’r postyn mewn amodau anodd.

Ond gwnaeth y maswr yn iawn am hynny yn fuan wedyn, yn llwyddo gyda gôl adlam ychydig eiliadau wedi i’r cloc droi’n goch.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Dreigiau yn bumed yn adran A y Pro14 tra mae’r Scarlets yn aros yn bedwerydd yn adran B.

.

Dreigiau

Cais: Rhodri Williams 36’

Trosiad: Sam Davies 36’

Ciciau Cosb: Sam Davies 6’, 9’, 19’, 73’

Gôl Adlam: Sam Davies 80’

Cerdyn Melyn: Matthew Screech 23’

.

Scarlets

Ceisiau: Gareth Davies 25’, Ken Owens 30’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 26’, 31’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 4’, 76’

Cerdyn Melyn: Wyn Jones 37’