Mae cyn-hyfforddwr cynorthwyol tîm rygbi Cymru, Rob Howley, wedi rhyddhau datganiad heddiw’n ymddiheuro am fetio ar gemau rygbi.
Ddoe, cafodd ei wahardd rhag bod yn gysylltiedig a’r gêm am 18 mis, ar ôl torri rheoliadau betio.
Yn y datganiad, mae Rob Howley yn achub ar y cyfle i “ymddiheuro i bawb sy’n agos ataf a phawb y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw, yn enwedig y gymuned rygbi, cydweithwyr agos ac yn anad dim fy nheulu.”
Meddai hefyd ei fod yn ddyn preifat a bod hynny wedi ei gadw’n dawel wrth iddo droi at fetio yn dilyn “marwolaeth drasig” ei chwaer yn 2011.
Roeedd Undeb Rygbi Cymru (WRU) wedi dweud bod Rob Howley wedi ei gyhuddo ym mis Hydref o fetio 364 gwaith ar gemau rygbi undeb dros gyfnod o bedair blynedd gan ddefnyddio cyfrifon gyda thair siop fetio yn ei enw ei hun.
Cafodd Rob Howley ei anfon adref o Japan yn gynnar ar drothwy Cwpan Rygbi’r Byd ar ôl i Undeb Rygbi Cymru ddod yn ymwybodol o’r mater a chafodd ymchwiliad ei gynnal.
Ond wedi’r gwaharddiad ddod i ben, mae Rob Howley’n gobeithio dychwelyd i weithio ym myd rygbi unwaith eto.
Meddai: “Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn hynod o anodd, a bydd derbyn cymorth parhaus yn caniatáu imi ddod o hyd i’r llwybr cywir yn ôl i rygbi, y peth dwi wedi bod a gwir angerdd amdano erioed.
“Rwy’n hynod ddiolchgar am y ffydd a’r gefnogaeth a gefais gan bawb sy’n agos ataf.”