Mae Rhys Fawcett a Simon Gardiner, dau brop y Scarlets, wedi ymuno â’r Gweilch ar fenthyg yn sgil argyfwng anafiadau.

Cafodd Gareth Thomas a Gheorghe Gajion eu hanafu yn y gêm yn erbyn Racing 92 yng Nghwpan Pencampwyr Heineken, wrth i’r Gweilch golli o 40-19 yn Stadiwm Liberty.

Maen nhw ymhlith pump o chwaraewyr rheng flaen sydd wedi’u hanafu – Rhodri Jones, Tom Botha a Rhys Henry yw’r tri arall.

Nicky Smith, Ma’afu Fia a Jordan Walters yw’r unig chwaraewyr sy’n holliach i chwarae yn safle’r prop.

Bydd y gêm gyfatebol rhwng y Gweilch a Racing 92 yn cael ei chynnal yn Paris nos Wener (Rhagfyr 13).