Bayonne 11–19 Scarlets

Y Scarlets a aeth â hi wrth iddynt deithio i’r Stade Jean Dauger i wynebu Bayonne yng Nghwpan Her Ewrop nos Sadwrn.

Cais hanner cyntaf Rob Evans a chicio cywir Leigh Halfpenny a arweiniodd at fuddugolieth Bois y Sosban yng Ngwlad y Basg.

Cyfnewidiodd Halfpenny a Romain Barthelemy gic gosb yr un cyn i Evans groesi am gais cyntaf y gêm, yn cael ei wthio drosodd gan sgarmes symudol.

Tarodd Bayonne nôl gyda chais unigol da y mewnwr, Michael Ruru, ond yr ymwelwyr o Gymru a gafodd air olaf yr hanner cyntaf gyda chic gosb arall gan Halfpenny yn eu rhoi ar y blaen o un pwynt ar ddeg i wyth.

Llwyddodd Halfpenny gyda dwy gic gosb arall yn yr ail hanner, o bobtu i un gan Barthelemy.

Rhoddodd hynny ddwy sgôr rhwng y ddau dîm ac roedd hynny yn ddigon o fwlch i’r ymwelwyr ddal eu gafael yn gymharol gyfforddus.

Mae’r canlyniad yn rhoi tîm Brad Mooar yn ail yng ngrŵp 2 cyn iddynt groesawu’r Ffrancwyr i Barc y Scarlets yn y gêm gyfatebol yr wythnos nesaf.

.

Bayonne

Cais: Michael Ruru 31’

Ciciau Cosb: Romain Barthelemy 24’, 52’

Cardiau Melyn: Sione Tau 40’, Yan Lestrade 60’

.

Scarlets

Cais: Rob Evans 28’

Trosiad: Leigh Halfpenny 29’,

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 11’, 40’ 50’, 57’