Gleision 54–22 Pau

Chwaraeodd y Gleision rygbi godidog wrth drechu Pau ar Barc yr Arfau yng Nghwpan Her Ewrop nos Sadwrn.

Roedd yr olwyr ar dân wrth i’r tîm cartref groesi am wyth cais, gan gynnwys tri i Josh Adams, mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Hanner Cyntaf

Daeth cais cyntaf y noson wedi deuddeg munud, Adams yn sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf dros ei dîm newydd yn dilyn symudiad gwych gan Tomos Williams, Jarrod Evans ac Olly Robinson.

Ymatebodd Pau gyda chais Lucas Rey ond fu dim rhaid aros yn hir am ail y Gleision, Evans yn sgorio ar ôl casglu cic hyfryd Williams dros yr amddiffyn.

Roedd y canolwr ifanc, Ben Thomas, yn creu argraff yn ei gêm gyntaf yntau a sgoriodd gais haeddiannol yn dilyn cyd chwarae pert gyda’i gapten, Will Boyde.

Ac roedd y pwynt bonws yn ddiogel cyn yr egwyl diolch i Matthew Morgan, y cefnwr yn casglu dad lwythiad Adams wedi bylchiad trydanol Owen Lane.

Ail Hanner

Parhau i reoli a wnaeth y Cymry wedi’r egwyl gyda’r olwyr yn serennu o hyd. Dwylo anhygoel Williams a chic gywir Evans a arweiniodd at y cais nesaf, ail Adams o’r noson a phumed ei dîm.

Ymatebodd Pierre Nueno gyda chais i’r Ffrancwyr cyn i’r haneri gyfuno eto am chweched cais y Gleision, Evans yn sgorio wedi cic gelfydd arall gan Williams.

Creodd Thomas y cais nesaf i Lane gyda chic letraws wedi ei mesur yn berffaith cyn i Samuel Marques ymateb gyda thrydydd Pau.

Ond y tîm cartref a gafodd y gair olaf a hynny mewn steil, Adams yn cwblhau ei hatric ond roedd y gwaith caled wedi cael ei wneud gan Thomas, Lane a Lloyd Williams mewn symudiad gwych arall.

Mae’r fuddugoliaeth pwynt bonws yn rhoi’r Gleision yn ail yng ngrŵp 5 gyda thaith i gyrion y Pyrenees i wynebu Pau yn y gêm gyfatebol y penwythnos nesaf.

.

Gleision

Ceisiau: Josh Adams 13’, 51’ 78’, Jarrod Evans 28’, 60’ Ben Thomas 32’, Matthew Morgan 36’, Owen Lane 69’

Trosiadau: Jarrod Evans 14’, 29’, 33’, 36’, 52’, 61’, Jason Tovey 70’

.

Pau

Ceisiau: Lucas Rey 23’, Pierre Nueno 54’, Samuel Marques 75’

Trosiadau: Tom Taylor 25’, 75’

Cic Gosb: Tom Taylor 20’