Gweilch 19–40 Racing 92
Parhau y mae dechrau anodd y Gweilch i’r tymor wedi iddynt golli’n drwm gartref yn erbyn Racing 92 yng Nghwpan Pencmpwyr Ewrop nos Sadwrn.
Roedd talcen caled yn wynebu’r Cymry o’r dechrau’n deg yn dilyn cerdyn coch i Dan Evans yn y munud cyntaf ar y Liberty.
Hanner cyntaf
37 eiliad yn unig a oedd ar y cloc pan gafodd y gêm i hatal ar argymhelliad y dyfarnwr fideo. Edrychodd y dyfarnwr ar Evans yn codi ei droed wrth gasglu pêl uchel a’r droed honno yn taro asgellwr Racing, Teddy Thomas, yn ei wyneb. Er nad oedd hi’n weithred fwriadol, roedd hi’n un beryglus a phenderfynodd Frank Murphy ei fod yn haeddu coch.
Roedd tri cerdyn melyn hefyd mewn hanner cyntaf llawn digwyddiadau ac roedd hi’n anodd ar adegau cadw trefn ar sawl chwaraewr a oedd ar y cae!
Pedwar dyn ar ddeg yr un a oedd hi pan groesodd Hanno Dirksen am gais cyntaf y gêm i’r Gweilch.
Ond roedd hi’n bymtheg yn erbyn tri dyn ar ddeg am ugain munud olaf yr hanner a manteisiodd y Ffrancwyr yn llawn gan sgorio pedwar cais.
Roedd Teddy Baubigny a Teddy Thomas wedi sgorio un yr un cyn i Aled Davies ildio cais cosb am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol.
Ail Thomas a oedd pedwerydd yr ymwelwyr ac roedd yn un o geisiau gorau’r tymor, symudiad tîm hyfryd yn dechrau gyda chic gelfydd Finn Russell wrth ei linell 22 medr ei hun. 7-28 y sgôr wrth droi.
Ail Hanner
Sgoriodd Yoan Tanga bumed Racing yn gynnar yn yr ail hanner ac roedd hi’n bygwth troi’n grasfa fawr.
Cafwyd ymateb da gan y Gweilch serch hynny gyda chais yr un i Ma’afu Fia ac Aled Davies yn eu rhoi yn ôl o fewn dwy sgôr gyda chwarter y gêm yn weddill.
Ond y Ffrancwyr a gafodd y gair olaf gyda chais Henry Chavancy yn diogelu’r fuddugoliaeth chwarter awr o’r diwedd.
Mae’r canlyniad yn rhoi’r Gweilch allan o’r gystadleuaeth, ar waelod grŵp 4, heb bwynt wedi tair gêm.
.
Gweilch
Ceisiau: Hanno Dirksen 8’, Ma’afu Fia 51’, Aled Davies 58’
Trosiadau: Marty McKenzie 10’, 52’
Cardiau Melyn: Scott Williams 19’, Aled Davies 29’
Cerdyn Coch: Dan Evans 1’
.
Racing 92
Ceisiau: Teddy Baubigny 20’, Teddy Thomas 25’, 31’ Cais Cosb 29’, Yoan Tanga 46’, Henry Chavancy 66’
Trosiadau: Maxime Mauchenaud 21’, 25’, 32’, 67’
Cerdyn Melyn: Juan Jose Imhoff 7’