Caerwrangon 34–28 Dreigiau
Colli fu hanes y Dreigiau wrth iddynt deithio i Stadiwm Sixways i wynebu Caerwrangon yng ngrŵp 1 Cwpan Her Ewrop brynhawn Sadwrn.
Ar ôl dechrau’n dda, fe aeth y Cymry i lawr i bedwar dyn ar ddeg wedi cerdyn coch Taine Basham ac yn ôl y daeth y tîm cartref yn yr ail hanner.
Roedd cais Aaron Wainwright wedi rhoi’r Dreigiau ar y blaen ychydig funudau cyn i dacl waywffon Basham ar Gareth Simpson arwain at gerdyn coch i’r wythwr.
Manteisiodd Caerwrangon ar y gwagle bron yn syth gyda Ryan Mills yn croesi am gais cyntaf y tîm cartref a diolch i wyth pwynt o droed Jamie Schillcock roedd y Saeson ar y blaen wrth droi, 13-10 y sgôr.
Adferodd cais Rhodri Williams fantais y pedwar dyn ar ddeg yn gynnar yn yr ail gyfnod ond ymatebodd Caerwrangon yn dda gyda cheisiau Ollie Lawrence, Noah Heward a Jono Kitto yn sicrhau, nid yn unig buddugoliaeth, ond pwynt bonws hefyd.
Ond roedd diogn o amser ar ôl i’r Dreigiau gipio pwynt bonws eu hunain wrth i gais hwyr Luke Baldwin, sydd ar fenthyg o Gaerwrangon, roi’r ymwelwyr o fewn sgôr ar y chwiban olaf.
Ac mae hwnnw’n bwynt pwysig yng nghydestun y grŵp gan ei fod yn cadw’r Dreigiau ar frig y tabl, bwynt uwch ben Caerwrangon.
.
Caerwrangon
Ceisiau: Ryan Mills 24’, Ollie Lawrence 56’, Noah Heward 55’, Jono Kitto 73’
Trosiadau: Jamie Schillcock 25’, 57’, 66’, 74’
Ciciau Cosb: Jamie Schillcock 7’, 39’
.
Dreigiau
Ceisiau: Aaron Wainwright 14’, Rhodri Williams 46’, Luke Baldwin 77’
Trosiadau: Sam Davies 15’, 78’
Ciciau Cosb: Sam Davies 33’, 51’, 59’
Cerdyn Coch: Taine Basham 19’