Caerdydd 3–2 Barnsley
Sgoriodd Lee Tomlin yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm i gipio tri phwynt i Gaerdydd yn erbyn Barnsley yn Stadiwm y Ddinas yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.
Aeth yr Adar Gleision ar ei hôl hi ddwy waith yn erbyn yr ymwelwyr o waelod y tabl ond taro nôl ar y ddau achlysur cyn cipio’r tri phwynt gyda gôl hwyr Tomlin.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae, Mike Bahre yn canfod rhediad da Conor Chaplin ac yntau’n gorffen yn daclus heibio i Neil Etheridge.
Wnaeth hi ddim aros felly’n hir ac roedd Caerdydd yn gyfartal wedi ugain munud, croesiad cywir Junior Hoilett yn cael ei droi i’r rwyd ei hun gan Bambo Diaby o dan bwysau gan Aden Flint.
Roedd Barnsley yn ôl ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner wedi i gyfuniad o Diaby a Lee Peltier wyro croesiad Chaplin i gefn y rhwyd.
Gwnaeth Neil Harris ambell newid ymysodol ac un o’r eilyddion hynny a unionodd i’r Adar Gleision hanner ffordd trwy’r ail hanner, Danny Ward yn crymanu ergyd dda i gornel y rhwyd wedi gwaith creu Tomlin.
Ac ar ôl creu’r ail, Tomlin a sgoriodd y drydedd i’w hennill hi yn y pedwerydd munud o amser brifo, yn rhwydo gyda tharan o ergyd wrth y postyn pellaf wedi i amddiffyn ifanc yr ymwelwyr fethu â chlirio’r perygl.
Mae’r canlyniad yn codi’r tîm o Gymru i’r wythfed safle yn y tabl, bwynt yn unig o’r safleoedd ail gyfle.
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Peltier, Flint, Nelson, Bennett, Bacuna (Vaulks 75’), Pack, Mendez-Laing, Tomlin, Hoilett (Murphy 59’), Madine (Ward 65’)
Goliau: Diaby [g.e.h.] 20’, Ward 68’, Tomlin 90+4’
Cerdyn Melyn: Tomlin 80’
.
Barnsley
Tîm: Sahin-Radlinger, J. Williams, Diaby, Andersen, B. Williams, Halme, Bahre (Oduor 90+3’), Mowatt, Woodrow, Chaplin, Brown (Smichdt 82’)
Goliau: Chaplin 17’, Peltier [g.e.h] 48’
Cardiau Melyn: Halme 40’, Bahre 62’, Andersen 80’, B. Williams 90+1’, Mowatt 90+5’
.
Torf: 21,380