Bradford 1–0 Casnewydd                                                                

Sgoriodd James Vaughan unig gôl y gêm o’r smotyn wrth i Bradford guro Casnewydd ar Valley Parade yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Rhwydodd cyn flaenwr Everton o ddeuddeg llath toc cyn yr awr yn dilyn trosedd gan gôl-geidwad yr Alltudion, Nick Townsend.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, daeth eiliad fawr y gêm wedi deuddeg munud o’r ail hanner, Townsend yn llorio Vaughan yn y cwrt cosbi cyn i’r blaenwr profiadol godi ar ei draed i sgorio o’r smotyn.

Mae Casnewydd yn llithro i’r deuddegfed safle yn y tabl wrth i’w rhediad gwael yn y gynghrair barhau, nid yw tîm Mike Flynn wedi ennill yn eu pum gêm ddiwethaf yn yr Ail Adran.

.

Bradford

Tîm: O’Donnell, Mellor, P. O’Connor, A. O’Connor, Reeves, Henley, Cooke, Taylor (Anderson 90+5’), Wood, Oteh (Connolly 88’), Vaughan

Gôl: Vaughan [c.o.s.] 58’

Cardiau Melyn: Oteh 52’, P. O’Connor 61’, Taylor 62’, Reeves 89’

.

Casnewydd

Tîm: Townsend, McNamara (Poleon 76’), Inniss, O’Brien, Haynes, Maloney, Sheehan, Dolan (Collins 86’), Nurse, Amond (Matt 65), Abrahams

Cardiau Melyn: Sheehan 35’, Townsend 57’, Nurse 65’

.

Torf: 14,016