Benetton 28–31 Gleision
Sgoriodd y Gleision gyda symudiad olaf y gêm i drechu Benetton yn eu gêm Guinness Pro14 yn y Stadio Comunale di Monigo brynhawn Sadwrn.
Jason Harries a sgoriodd y cais holl bywsig wrth i’r Cymry ennill o dri phwynt yn Treviso.
Chwarter awr a oedd ar y cloc pan groesodd James Botham am gais cyntaf y gêm wedi sgarmes symudol effeithiol gan y Gleision.
Ymtebodd Benetton yn dda gyda dau gais yn chwarter awr olaf yr hanner cyntaf, Marco Riccioni yn sgorio’r cyntaf cyn i Iliesa Ratuva garlamu i lawr yr asgell dde am yr ail, 15-10 y sgôr o blaid y tîm cartref wrth droi.
Ymestynnodd Tommy Allan y fantais i wyth pwynt gyda chic gosb yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i Lloyd Williams ymateb gyda chais i’r ymwelwyr o Gymru, y mewnwr yn bylchu ar yr ochr dywyll wedi sgrym bum medr.
Y tîm cartref a sgoriodd nesaf, Monty Ionae yn tirio wedi cic daclus Dewaldt Duvenage i’w lwybr.
Ac roedd hi’n ymddangos fel pe bai’r gêm yn mynd o afael y Gleision pan sgoriodd Frederico Zani bedwerydd Benetton ar yr awr i sicrhau pwynt bonws a’u rhoi un pwynt ar ddeg ar y blaen gyda chwarter y gêm ar ôl.
Ond gorffennodd y Gleision yn dda ac roeddynt yn ôl o fewn sgôr ddeuddeg munud o’r diwedd wedi i sgarmes symudol arall hyrddio Alun Lawrence drosodd am gais.
Yna, gyda’r cloc yn goch, fe dorodd Ray Lee-lo trwy amddiffyn yr Eidalwyr cyn rhyddhau’r eilydd, Harries, i groesi am gais ar yr asgell chwith ac ennill y gêm i’r ymwelwyr o Gymru.
Mae’r canlyniad yn codi tîm John Mulvihill dros Benetton i’r pumed safle yn nhabl adran B y Pro14.
.
Benetton
Ceisiau: Marco Riccioni 29’, Iliesa Ratuva 35’, Monty Ioane 56’, Frederico Zani 61’
Trosiad: Tommy Allan 30’
Ciciau Cosb: Tommy Allan 12’, 47’
.
Gleision
Ceisiau: James Botham 16’, Lloyd Williams 52’, Alun Lawrence 68’, Jason Harries 80’
Trosiadau: Jason Tovey 17’, 53’, 69’, 80’
Cic Gosb: Jason Tovey 33’