Mae Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn dweud y gallan nhw herio unrhyw un yn Ewro 2020 os ydyn nhw’n aros yn holliach – ac y gallan nhw efelychu tîm Chris Coleman yn 2016.
Dyma’r ail waith yn olynol i Gymru gyrraedd yr Ewros, ar ôl cyrraedd y rownd gyn-derfynol yn Ffrainc bedair blynedd yn ôl.
Byddan nhw’n herio’r Swistir a Twrci yn Baku cyn mynd i Rufain i herio’r Eidal yng ngrŵp A fis Mehefin nesaf.
Yn ôl Ryan Giggs, mae chwarae dwy gêm yn olynol yn Baku cyn mynd i Rufain yn hwyluso’r trefniadau.
“O edrych ar y logisteg, Baku, Baku, Rhufain yw e yn hytrach na chael Rhufain yn y canol a gorfod dychwelyd i Rufain,” meddai Ryan Giggs wrth y BBC.
“Felly o ran y logisteg i ni a’r cefnogwyr, mae e dipyn gwell.
“Ond ar yr adeg hon, maen nhw i gyd yn gemau anodd.”
Y gwrthwynebwyr
Bydd Cymru’n herio’r Swistir ar Fehefin 13 a Twrci ar Fehefin 17 yn Baku, cyn wynebu’r Eidal yn Rhufain ar Fehefin 21.
Y tro diwethaf i Gymru herio Twrci, enillon nhw o 6-4 yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 1998, wrth i Hakan Sukur sgorio pedair gôl.
Roedden nhw’n fuddugol y tro diwethaf iddyn nhw wynebu’r Swistir hefyd, o 2-0 mewn gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2012 ym mis Hydref 2011, wrth i Aaron Ramsey a Gareth Bale sgorio.
Ond sut mae Ryan Giggs yn asesu eu gobeithion y tro hwn?
“Mae’r Swistir yn dîm da,” meddai.
“Fe wnes i wylio’u cynnydd nhw, roedden nhw gyda Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc [yn y gemau rhagbrofol] ac maen nhw’n dîm dawnus.
“Yn amlwg, roedd Twrci yn yr un grŵp â Ffrainc a Gwlad yr Iâ ac maen nhw wedi gwneud yn dda i ddod drwyddi.
“Ac wrth gwrs, fe gafodd yr Eidal ymgyrch ragbrofol wych, gan ennill pob gêm felly bydd honno’n gêm anodd hefyd.
“Gobeithio y bydd yr Eidal wedi ennill pob gêm [erbyn i Gymru eu herio] fel y byddwn ni’n chwarae yn erbyn eu hail dîm! Gobeithio y byddwn ni’n dal ynddi erbyn hynny.”
Paratoi ar gyfer yr haf
Gan fod Cymru bellach yn gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr, fe fydd Ryan Giggs a’i dîm hyfforddi’n gallu dechrau paratoi’r garfan a gwneud eu gwaith cartref o safbwynt eu gwrthwynebwyr.
“Dw i’n mynd o gwmpas yn gwylio’r chwaraewyr cymaint â phosib,” meddai.
“Gobeithio pan ddaw i fis Mehefin, bydd gyda ni griw o chwaraewyr holliach i ddewis o’u plith os oes gyda ni hynny, gallwn ni herio unrhyw un.”
Yn ôl Ryan Giggs, gall Cymru efelychu llwyddiant tîm Chris Coleman yn Ffrainc bedair blynedd yn ôl.
“Mae’r chwaraewyr hynny wedi bod yno ac wedi cael y profiad hwnnw.
“Mae gan y chwaraewyr hynny oedd yn eistedd gartref yn gwylio ac yn dyheu am fod yno y cyfle nawr i fod yno.
“Rydyn ni eisiau manteisio ar ein cyfle, yn union fel y gwnaeth bois Cookie yn 2016.
“Dyw e ddim yn hawdd, mae angen momentwm arnoch chi, rhywbeth gafodd y bois yn Ffrainc, ond os oes gyda ni garfan lawn i ddewis o’i phlith, gallwn ni herio unrhyw un.”