Mae Johnny McNicholl, asgellwr tîm rygbi Cymru, yn dweud ei fod e’n teimlo’n gartrefol yng Nghymru, a’i fod e’n mynd ati o ddifri i ddysgu’r anthem genedlaethol.
Fe fu Willis Halaholo yn llafar ei farn am “y rhai sy’n amau, casáu neu’n meddwl nad ydw i’n perthyn yma”.
Bydd Johnny McNicholl yn ennill ei gap cyntaf heddiw yn erbyn y Barbariaid yn Stadiwm Principality, ond fe fu’n rhaid i Willis Halaholo dynnu’n ôl o’r garfan oherwydd anaf.
Mae Johnny McNicholl, sy’n gallu chwarae fel cefnwr neu ar yr asgell, yn gymwys ar ôl bod yn byw yng Nghymru ers tair blynedd.
Ymhlith olwyr Cymru hefyd mae Hadleigh Parkes, un arall o Seland Newydd yn wreiddiol.
“Dw i ddim yn defnyddio fy nghyfrif Twitter a does neb wedi anfon neges uniongyrchol ata’i,” meddai Johnny McNicholl.
“Felly na, does dim negatifrwydd.
“Dw i ddim yn gwrando arno oherwydd dim ond lleiafrif bach sy’n dweud y pethau hynny, fwy na thebyg, ac fy nghyngor i fyddai cadw draw o’r cyfryngau cymdeithasol.
“Mae ambell berson dw i wedi’u gweld yn y stryd wedi dweud ‘llongyfarchiadau a phob lwc’, felly mae’r ymateb wedi bod yn dda iawn.”
Dysgu’r anthem
Yn ôl Warren Gatland, cyn-brif hyfforddwr Cymru fydd yn hyfforddi’r Barbariaid yn erbyn ei hen dîm heddiw, gall chwaraewyr o dramor sy’n cynrychioli’r tîm cenedlaethol elwa o ddysgu geiriau ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.
Mae’n dweud bod cyd-ganu’r anthem cyn gemau’n cryfhau’r berthynas rhwng y chwaraewyr a’r cefnogwyr.
“Dw i wedi bod yn mynd ati’n galed gyda’r anthem,” meddai Johnny McNicholl, sy’n chwarae i’r Scarlets.
“Dyw hi ddim yn iaith dw i’n ei hadnabod, felly mae’r ynganu’n anodd iawn i fi.
“Ond mae Steff Hughes [cyd-chwaraewr yn y Scarlets] wedi bod yn dda iawn o ran hynny drwy ysgrifennu’r geiriau yn y ffordd maen nhw’n cael eu dweud yn Gymraeg, ac ysgrifennu sut fyddwn i’n eu dweud nhw yn Saesneg.
“Roedd hynny dipyn haws i’w ddysgu a dw i’n edrych ymlaen at roi cynnig ar ei morio canu hi ddydd Sadwrn.
“Dw i bron iawn yn ei hadnabod hi ar fy nghof, a’r llinell olaf yn unig sydd gen i i’w dysgu. Dylai hi fod yn barod erbyn diwrnod y gêm.”