Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e’n teimlo “rhwystredigaeth” ar ôl i’w dîm golli o 2-1 yn erbyn Fulham yn Stadiwm Liberty neithiwr (nos Wener, Tachwedd 29).
Dim ond pedwar pwynt allan o 21 posib sydd gan yr Elyrch ar eu tomen eu hunain ers dechrau mis Medi.
Dechreuodd yr Elyrch y gêm yn gryf cyn ildio dwy gôl, ac fe gawson nhw gryn anawsterau wedyn i oresgyn tîm Fulham oedd wedi disgyn o’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Rhwydodd Aleksandar Mitrovic ar ôl 21 munud cyn dyblu mantais ei dîm ar ôl 42 munud.
Rhwydodd George Byers ar ôl 64 munud i roi llygedyn o obaith i’r Elyrch, ond fe arhosodd amddiffyn Fulham yn gadarn.
Serch y canlyniad, dywed Steve Cooper ei fod e wedi gweld gwelliant yn y perfformiad.
“Yn nhermau’r cyfleoedd wnaethon ni eu creu a lefel y perfformiad, efallai ein bod ni’n haeddu mwy,” meddai.
“Ond wnaethon ni ddim cymryd y cyfleoedd ac fe wnaethon ni ildio goliau gwael, yn enwedig yr ail.
“Ry’n ni’n gwybod fod Mitrovic yn chwarae fel ymosodwr iddyn nhw ac nad yw e’n methu’r cyfleoedd hynny, ond fe wnaethon ni roi’r cyfle iddo fe.
“Ro’n i’n meddwl mai hwn oedd ein perfformaid gorau ers sbel, a dyna pam ry’n ni’n rhwystredig o fethu â chael gêm gyfartal.
“Fe wnaethon ni chwarae pêl-droed dda gan greu llawer mwy o gyfleoedd nag yr ydyn ni wedi’i wneud o’r blaen yma, a dyna’r nod.”