David Pocock
Mae blaen asgellwr Awstralia David Pocock wedi mynnu ei fod yn canolbwyntio ar rwystro Cymru yn hytrach na derbyn gwobr IRB Chwaraewr y Flwyddyn.
Mae Pocock yn un o’r chwaraewyr sydd wedi ei enwebu am y wobr- yn ogystal a’i gyd-chwaraewr Will Genia o Awstralia, Piri Weepu, Jerome Kaino a Ma’a Nonu o Seland Newydd a Chapten Ffrainc Thierry Dusautoir.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 24 Hydref yn Auckland. Fodd bynnag, mae Pocock am roi ei feddyliau personol i’r naill ochr er mwyn cynorthwyo Awstralia i gipio’r fedal efydd ym mharc Eden nos yfory.
‘‘Mae’n anrhydedd enfawr i gael fy enwebu am y fath wobr,’’ meddai.
‘‘Ond galla’i ddim meddwl amdano gyda’r gêm ymlaen nos yfory’’.
‘‘Mae rheng ôl Cymru yn weithgar tu hwnt. Maen’t o hyd o amgylch y cae ac yn dîm sydd yn ymosod yn ffyrnig yn ardal y dacl ac yn gryf yn amddiffynnol,’’ dywedodd Pocock.
‘‘Mae ganddyn nhw lawer o fygythiadau yn yr olwyr. Canolwyr Cymru mwy na thebyg yw’r rhai sydd yn rhedeg yn galetaf at y gwrthwynebwyr yn nghystadleuaeth Cwpan y Byd’’.
Fe fydd Nathen Sharpe yn derbyn ei ganfed cap i Awstralia ac mae Pocock wedi talu teyrnged i’r clo poblogaidd.
‘‘Mae ef wedi bod yn ddylanwad enfawr i mi cyn belled,’’ meddai Pocock.
‘‘Yr oedd yno pan ddechreuais chwarae i’r Western Force ac yn ogystal gyda Awstralia yn y tymhorau dwethaf. Mae pawb yn edrych i fyny ato, nid dim ond yn llythrennol, ond hefyd fel dyn gyda llawer o egwyddor ac yn arweinydd ar y cae ac oddi ar y cae,’’ ychwanegodd Pocock.
‘‘Mae’n berson byddwch yn gyfforddus i fynd ato gyda’ch problemau. Mae o hyd gydag amser i rywun,’’ dywedodd.
‘‘I ragori am gyfnod hir gyda’r holl newidiadau yn y gêm, mae hyn yn glod mawr iddo fel unigolyn ac athletwr. Credaf mai 14 oed oeddwn i pan gafodd ei gap gyntaf i Awstralia, felly mae hynny yn amser hir ar y brig’’, dywedodd Pocock.
Rhys Jones