Sam Warburton
Bore yfory bydd Cymru’n rhoi terfyn ar eu hymgyrch fythgofiadwy yn Seland Newydd wrth herio Awstralia am y trydydd safle ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd.
Er nad yw’r ddau dîm wir eisiau bod yn rhan o’r gêm sydd yn penderfynu pwy sydd am gipio’r fedal efydd, ar ôl colli o bwynt i Ffrainc a cholli Capten Cymru Sam Warburton oherwydd carden goch, mae nifer o’r chwaraewyr eisiau gadael Seland Newydd yn llawn balchder, yn ôl Huw Bennett.
‘‘Bydd hyn yn profi ein cymeriad’’, meddai Bennett, bachwr Cymru.
‘‘Roedd yn ergyd drom i ddelio ag o wrth golli yn erbyn Ffrainc, ond mae’n rhaid i ni symud ymlaen a mwynhau ein hunain,” ychwanegodd.
‘‘Dyna beth yw Cwpan y Byd, ac mae dod mor agos i’r rownd derfynol yn dor-calonnus – colli o un pwynt yn unig, ond mae’n rhaid i ni symud ymlaen gan edrych ymlaen i wynebu Awstralia,’’ dywedodd Bennett.
Mae Bennett wedi cael ymgyrch lwyddiannus yn y gystadleuaeth, fach rôl y bachwr oedd wedi’i adael yn rhydd ar ôl i Matthew Rees ddioddef anaf yn gyntaf, cyn i Richard Hibbard gael ei anafu hefyd.
Talu nôl i’r capten
Yn anffodus i’r Cymru, ni fydd eu capten Cymru, Sam Warburton yn cael ei gynnwys yn y tîm yn dilyn gwaharddiad am ei dacl peryglus ar asgellwr Ffrainc Vincent Clerc yn y rownd gyn derfynol.
Cafodd Warburton ei wahardd am dair wythnos o ganlyniad i’r drosedd, ond mae’r chwarewr 23 oed wedi cael dylanwad mawr ar y garfan gan arwain ei dîm yn drawiadol trwy gydol y gystadleuaeth.
’’Roeddem wedi dweud hanner amser yn ystod gêm Ffrainc ein bod am ennill er mwyn Sam’’, meddai maswr Cymru James Hook.
“Ni ddigwyddodd hynny, ond mae wedi bod yn arbennig i ni – nid yn unig yng Nghwpan y Byd ond pan ddechreuodd chwarae i Gymru. Byddai’n wych ennill y gêm iddo gan dalu nôl am ei ymdrechion, mae wedi bod yn rhagorol’’.
Colli Cyfleoedd
Mae Hook yn cadw ei safle maswr ar ôl perfformiad ddigon sigledig yn erbyn Ffrainc fore Sadwrn.
Fe fethodd y maswr, sydd ar fin ymuno a Perpignan yn Ffraic, ddwy allan o dair gic cyn iddo cael ei eilyddio gan Stephen Jones ychydig ar ôl hanner amser.
‘’Roeddwn wedi siomi’n arw am y gêm ddiwethaf. Yn amlwg roedd methu sgorio pwyntiau yn hollol hanfodol i’r canlyniad gan ein bod wedi colli o un pwynt’’, ychwanegodd Hook.
‘‘Rwyf wrth fy modd fod gen i’r cyfle i anghofio’r gêm y penwythnos diwethaf ac yn edrych ymlaen at y sialens yfory’’.
‘‘Roedd hi’n anodd pan ar ôl i ni fynd lawr i 14 dyn, ond dy’n ni ddim am wneud esgusodion. Rhaid i ni ei dderbyn’’.
‘‘Mae’n bwysig cadw ein hyder ac i ddal ati i chwarae yn yr un modd yr ydym wedi ei gwneud trwy gydol y cystadleuaeth’’, meddai Hook.
‘‘Os allwn ni gipio buddugoliaeth yn erbyn tîm o hemisffer y de, byddai hynny’n rhoi hyder enfawr i ni wrth fynd i mewn i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad’’, dywedodd Hook.