Mae sêr tennis Powys ar, ac oddi ar y cwrt, wedi cael lle amlwg yng Ngwobrau Tennis Cymru 2011.

Cafodd Cyngor Sir Powys ei enwi yn Awdurdod Lleol y Flwyddyn i gydnabod nifer o fentrau i hybu tennis o fewn y sir. Mae timoedd Pobl Ifanc Egniol a Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Powys wedi gweithio’n agos gydag amrywiaeth o sefydliadau i sicrhau cyfleoedd i chwarae tennis yn y sir.

Mae Matthew James, Swyddog Datblygu Chwaraeon De Powys wedi helpu i sefydlu clwb tennis newydd yn Aberhonddu, gyda’r clwb yn llwyddo i ennill statws sefydliad disglair i gydnabod y gwaith cymunedol ac allgymorth.

Mae Matthew hefyd wedi gweithio gyda’r hyfforddwr Chris Hill i lansio pencampwriaeth tennis newydd ym Mrycheiniog a Maesyfed. Yn ei flwyddyn gyntaf, bu dros 40 o bobl yn cymryd rhan mewn cystadlaethau mini, iau ac oedolion.

Ysgolion yn cystadlu

Dan arweiniad Katie Hamer, Swyddog Datblygu Chwaraeon Gogledd Powys, gwelwyd cynnydd o 3 – 7 yn nifer y clybiau tennis cofrestredig yn Sir Drefaldwyn yn ystod 2011, gyda nifer yr aelodau iau sy’n cystadlu’n rheolaidd yn yr ardal yn codi’n sylweddol o 1 – 44. Gwelwyd cynnydd hefyd yn nifer yr ysgolion a’r timoedd a fu’n cystadlu yng nghystadleuaeth Aegon eleni. Trefnwyd sesiynau hyfforddi tennis i athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â chwrs arweinwyr yng Ngholeg Powys.

Anrhydeddwyd Shain Lewis o Lanfair-ym-Muallt mewn seremoni yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Gwener (7 Hydref) gan dderbyn Gwobr Llwyddiant Arbennig. Mae Shain wedi cael blwyddyn anhygoel gan gynnwys cynrychioli Prydain yng ngemau Olympaidd Arbennig y Byd yn Athen, gan ennill dwy fedal efydd, un yn y gemau sengl a’r llall yn y dwbl. Fe roddodd araith hefyd yn y seremoni cloi.

‘Blwyddyn lewyrchus’

Cyflwynwyd gwobrau hefyd i ddwy ferch ifanc leol arall – Phoebe Cuthbertson-Smith a Rebecca O’Loughlin. Roeddynt yn aelodau o Dîm y Flwyddyn (dan 12, David Lloyd, Caerdydd). Mae Rebecca’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Crughywel a Phoebe’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llangynidr.

Dywedodd Peter Drew, Prif Weithredwr Tennis Cymru: “Mae wedi bod yn flwyddyn lewyrchus iawn i tennis Cymru. Mae’r enillwyr yn unigolion a sefydliadau anhygoel sy’n haeddu pob clod.”

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn noson ddatblygu arbennig yn Stadiwm Dinas Caerdydd.