Aaron Ramsey - y sgoriwr
Y Cymro Aaron Ramsey oedd arwr Arsenal wrth iddyn nhw guro Marseille yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop.
Fe ddaeth y chwaraewr canol cae ymlaen yn eilydd a sgorio unig gôl y gêm yn y munudau ola’.
Roedd rheolwr y clwb o Lundain yn hael ei ganmoliaeth i gapten Cymru gan ddweud ei fod bellach yn sgoriwr sicr.
“Roedd yn sgôr gwych,” meddai Arsene Wenger. “R’ych chi’n gweld Ramsey o flaen y gôl ac yn gwybod fod gyda chi gyfle da i sgorio. Mae’n sgoriwr.”
Gwarchod Ramsey
Er bod Arsenal wedi bod dan bwysau anferth ar ôl dechrau gwael i’r tymor, fe wnaeth y rheolwr yn glir hefyd ei fod yn ceisio gwarchod y Cymro ac yntau wedi colli blwyddyn oherwydd anaf difrifol.
“Dw i ddim eisiau ei chwarae’n rhy aml. Dw i wedi gweld yn fy meddwl ei fod wedi ei anafu am flwyddyn. Roedd Wilshere (Jack Wilshere chwaraewr Lloegr, sydd allan gydag anaf) wedi chwarae llawer y llynedd. Dw i’n ceisio bod yn fwy gofalus pan alla’ i.”
Ar y teledu neithiwr, roedd y cyn reolwr Uwch Gynghrair Gordon Strachan hefyd wedi canmol Ramsey am y ffordd yr oedd wedi sylweddoli y byddai cyfle’n dod ac wedi mynd i’r lle cywir ar ymyl y bocs.