Gavin Henson yn hysbysebu crys Cymru ar Stadiwm y Mileniwm yn 2010
Caio Higginson sy’n mynegi ei farn ar drosglwyddiad diweddaraf Gavin Henson, sy’n dychwelyd i Gymru gyda’r Gleision.

Ychydig dros flwyddyn sydd ers i Gavin Henson ac Undeb Rygbi Cymru greu PR stỳnt a gorddod y dyfroedd yng Nghymru, trwy ddatgelu poster anferth o Gavin ar ochr Stadiwm y Mileniwm yn gwisgo cit newydd y tîm rhyngwladol. Pa mor ddibwys yw’r atgof yna yng ngholau campau diweddar y tîm cenedlaethol?

Roedd Gavin Henson ar y pryd yn paratoi ar gyfer gyrfa rhan amser ym myd teledu ac yn sôn yn gyhoeddus am ei awydd i adael ei ranbarth Cymreig, Y Gweilch. Hyn oll wedi cyfnod o flwyddyn a mwy o egwyl o’r cae rygbi.

Felly doedd dim llawer o syndod pan ddadorchuddiwyd y poster anferth ohono, nad oedd ambell un o chwaraewyr presennol y tîm cenedlaethol yn rhy hapus, yn enwedig Jamie Roberts a wnaeth sylwadau yn y wasg am y mater.

Flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae Henson wedi arwyddo i ranbarth y Gleision.

Pa rôl fydd i Henson

Mae’r syniad o Jamie Roberts a Gavin Henson yn cydweithio fel canolwyr yn briodas mae Gatland eisoes wedi ceisio ei gorfodi. Mae’n ymddangos nad yw’r un ohonynt yn gyfforddus gyda’r rhif tri ar ddeg ar eu cefn – dyna anlwc!

Heb os, bydd angen gorffwyso Jamie Roberts wedi i Gwpan Byd ddod i ben, ac fe fydd y ddau yn cynnig rhywbeth gwahanol  yn safle 12 trwy gydol y tymor. Jamie a’i allu i dorri tyllau yn llinellau’r amddiffyn a Gavin fel ail faswr yn medru llywio’r chwarae.

Nid yw’r Gleision wedi llwyddo i lenwi’r bwlch a adawyd gan Nicky Robinson yn safle’r maswr. Cafwyd yr arbrawf arswydus gyda Sam Norton Knight o Awstralia nes daethpwyd a Dan Parks o Glasgow, sydd yn effeithiol yn ei gicio ond yn chwerthinllyd o sâl yn ei amddiffyn.

Tybed os mai yn safle’r maswr fydd cyfraniad mwyaf Henson i’r Gleision?

Mae’n annhebygol byddwn yn ei weld yn safle’r cefnwr. Fe fydd Leigh Halfpenny yn awyddus i barhau yn y safle hwnnw ar ôl dychwelyd o Seland Newydd, ac mae Chris Czekaj yn chwarae yno’n gyson hefyd.

Ond hefyd mae’n ddigon posib y bydd yn cael ei berswadio i fabwysiadu safle’r cefnwr am nad oes cystadleuaeth gref am grys rif pymtheg Cymru.

Ond fel yw’r achos gyda Gavin Henson o hyd. Nid ble fydd y crwt yn chwarae yw’r broblem, ond ei agwedd a’i effaith ar weddill y garfan. Fe wrthododd Dreigiau Casnewydd Gwent y cyfle i arwyddo’r canolwr am nad oeddent yn credu y byddai’n cyd fynd ag ethos eu carfan o chwaraewyr.

Mae wedi bod yn flwyddyn ansefydlog i’r gŵr o Bencoed ond a fydd ei ddylanwad ar y rhanbarth yr un mor sigledig? Heb brif hyfforddwr a phrif weithredwr yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, mae’n ymddangos y bydd angen dylanwad cryf dros y garfan rhag i’r cynhwysyn diweddaraf suro’r cawl.