Proffil Hallam Amos ar wefan y Dreigiau
Mae’n bosib y bydd un o chwaraewyr Dreigiau Gwent yn torri record am fod y chwaraewr Cymreig ieuengaf i ymddangos mewn gêm gystadleuol dros y penwythnos.
Mae’r olwr, Hallam Amos, fydd yn 17 mlwydd a 28 diwrnod oed ddydd Sadwrn, wedi ei gynnwys yn y garfan sy’n teithio i herio’r Wasps yng nghwpan yr LV.
Petai’n dechrau’r gêm, ac mae hynny’n edrych yn debygol, fe fyddai Amos yn torri record Kristian Phillips pan chwaraeodd i’r Gweilch yn 2008.
Er hynny, fe allai’r record newydd gael ei thorri’n syth gan fod chwaraewr iau fyth ar y fainc i’r Dreigiau, sef Jack Dixon sy’n 16 mlwydd a 313 diwrnod oed.
Polisi’r rhanbarth
“Nid yw hwn yn benderfyniad sydd wedi’i gymryd yn ysgafn” meddai Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau Rob Beale.
“Mae dewis Hallam yn rhan o’n polisi i ddatblygu talent ifanc”
Jonathan Evans yw’r chwaraewr ieuengaf i chwarae i’r Dreigiau ar hyn o bryd, yn 17 mlwydd a 286 diwrnod oed.
“Nid yw’n gyd-ddigwyddiad mai Jon Evans yw’r ieuengaf i chwarae i ni ar hyn o bryd” ychwanegodd Beale.
“Mae dyfodiad chwaraewyr fel Jon ac Adam Hughes yn dangos pa mor bwysig yw’r cyfleoedd yma.”
“Mae gen i obeithion mawr am Hallam ac mae Parc Adams yn le da iddo fynd i ddechrau ei gêm gyntaf.”
Carfan Dreigiau Gwent:
Olwyr: Wayne Evans, Joe Bedford, Matthew Jones, Steffan Jones, Mike Poole, Ifan Evans, Adam Hughes, Lewis Robling, Jack Dixon, Hallam Amos
Blaenwyr: Phil Price, Hugh Gustafson, Nathan Buck, Keiron Jenkins, Sam Perry, Rhys Buckley, Ieuan Jones, Adam Jones, Scott Morgan, Jevon Groves, Hugo Ellis, Tom Brown, Darren Waters