Raymond Verheijen - Is-reolwr Cymru
Cyhoeddwyd y prynhawn yma y bydd Cymru’n herio Norwy mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar y 12 Dachwedd.
Mae is-hyfforddwr Cymru Raymond Verheijen, eisoes wedi bod yn trafod y gêm ar ei gyfrif Twitter.
‘Sialens nesaf i’n tîm, mae Norwy yn wrthwynebwyr anodd i chwarae yn eu herbyn.’
Gwrthwynebwyr siomedig
Yn gynharach heddiw fe ddatgelwyd fod Cymru wedi codi o rif 117 yn rhestr detholion y byd i safle 45, yn uwch na’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae Norwy wedi disgyn un safle ar y rhestr heddiw a bellach yn gorwedd yn rhif 24.
Nid yw Norwy wedi llwyddo i ennill lle yng nghystadleuaeth Euro 2012 ar ôl gorffen yn drydydd yn eu grŵp.
Fe drechon nhw Giprys o 3 – 1 yn eu gêm olaf yn yr ymgyrch ragbrofol.
Er bod Norwy’n wrthwynebwyr cryf, bydd llawer o gefnogwyr Cymru’n siomedig gan fod adroddiadau o’r Gymdeithas Bêl-droed eu bod yn gobeithio trefnu gêm yn erbyn un o brif dimau Ewrop.