Mae Alun Wyn Jones yn dal “yn rhan fawr o gynlluniau” Wayne Pivac, prif hyfforddwr newydd tîm rygbi Cymru – er na fydd e ar gael i chwarae yn ei gêm gyntaf wrth y llyw.
Dydy’r clo ddim ar gael i arwain Cymru yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn nesaf (Hydref 30) ar ôl anafu ei goes, ac mae e hefyd yn cael chwe wythnos o seibiant ar ôl Cwpan y Byd yn Japan.
Mae’r newyddion am ei ddyfodol yn golygu y dylai fynd heibio i gyfanswm capiau cyn-gapten Seland Newydd, Richie McCaw – 148 – sydd ar frig y rhestr capiau yn unrhyw le yn y byd.
Mae gan Alun Wyn Jones 143 o gapiau hyd yn hyn.
“Rydyn ni’n meddwl am Gwpan y Byd 2023 ac a fydd rhai pobol yn cyrraedd y fan honno ond ar hyn o bryd, mae arweinyddiaeth Alun Wyn yn bwysig iawn i ni,” meddai Wayne Pivac.
“Dydy e ddim ynghlwm wrth gêm y Barbariaid, dim ond oherwydd y cyfnod ymadfer sydd ganddo fe a’r anaf i gesail y forddwyd.
“Bydd e’n iawn ymhen rhai wythnosau, ac mae e’n rhan fawr o’m cynlluniau.”