Mae Ryan Giggs yn dweud iddo gael “un o nosweithiau gorau ’mywyd” neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 19) wrth i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2020.
Fe drechon nhw Hwngari o 2-0 gartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd diolch i ddwy gôl gan Aaron Ramsey.
Roedd angen buddugoliaeth ar dîm Ryan Giggs i efelychu camp ei ragflaenydd Chris Coleman a chyrraedd y gystadleuaeth yn awtomatig.
Mae’r canlyniad yn golygu y bydd yn rhaid i Hwngari geisio cymhwyso trwy’r gemau ail gyfle.
‘Noson arbennig iawn’
“Mae’n noson arbennig iawn,” meddai ar ôl y chwiban olaf.
“Mae’r bois wedi dangos cryn ddyfalbarhad a safon ac agwedd o beidio byth â rhoi’r ffidil yn y to.
“Maen nhw’n haeddu’r holl glod.
“Doedd dim lle i wneud camgymeriadau ac o’r safon a’r canolbwyntio maen nhw wedi’u dangos, maen nhw’n ei haeddu fe.
“Mae’n un o nosweithiau gorau ’mywyd, mae hi mor syml â hynny.”
Gwrthbrofi’r beirniaid llym
Yn union fel Chris Coleman ar ddechrau ei gyfnod e wrth y llyw, fe fydd llwyddiant Ryan Giggs ar y cynnig cyntaf yn tawelu’r beirniaid sydd wedi bod yn siomedig â’r penodiad.
Ac wrth gyrraedd un o’r prif gystadlaethau, mae e wedi llwyddo i wneud rhywbeth na wnaeth e fel chwaraewr dros Gymru.
“Fe wnes i gyflawni tipyn fel chwaraewr, ond mae’n wahanol fel rheolwr o ran y pwysau sydd arnoch chi…
“Do’n i byth yn nerfus fel chwaraewr, ond mi rydw i fel rheolwr.
“Ar ddiwrnod y gêm, mae’r cyfan allan o’ch dwylo chi.”
Talu teyrnged i Aaron Ramsey
Mae Ryan Giggs wedi talu teyrnged i Aaron Ramsey, sydd wedi serennu yn y ddwy gêm yr wythnos hon – yr unig ddwy gêm mae e wedi chwarae ynddyn nhw ers dechrau’r ymgyrch ragbrofol.
Cyn neithiwr, doedd e ddim wedi sgorio gôl ryngwladol ers mis Medi diwethaf.
“Ry’n ni wedi gweld ei eisiau fe,” meddai Ryan Giggs.
“Mae gyda ni chwaraewyr da iawn, ond dydyn nhw ddim yn tyfu ar goed, y chwaraewyr hynny sy’n gwneud gwahaniaeth.
“Aaron oedd y gwahaniaeth. Dw i’n falch iawn drosto fe.”
Dyfodol disglair – a chyfnod euraid arall?
Mae Ryan Giggs yn dweud mai cymhwyso ar gyfer un o’r prif gystadlaethau oedd ei nod wrth dderbyn y swydd i olynu Chris Coleman.
“Yn fwy na hynny, gadael pêl-droed Cymru mewn cyflwr gwell na phan gymerais i drosodd.
“Megis dechrau ydyn ni.
“Ry’n ni wedi gweld tipyn o chwaraewyr ifainc dros y 18 mis diwethaf, ac maen nhw’n gallu gwella – maen nhw’n sicr yn gallu gwella.”