Mae prif hyfforddwr newydd rygbi Cymru, Wayne Pivac, wedi enwi carfan 35 dyn ar gyfer ei gem gyntaf wrth y llyw yn erbyn y Barbariaid yn Stadiwm y Principality ar Dachwedd 30.
Mae tri chwaraewr di-gap wedi eu cynnwys yn y garfan sef Ashton Hewitt, Shane Lewis-Hughes a Taine Basham.
Bydd cyn-reolwr y Sgarlets Wayne Pivac yn wynebu tîm y Barbariaid sy’n cael eu hyfforddi gan ei ragflaenydd Warren Gatland, oedd yn brif hyfforddwr Cymru am 12 mlynedd.
Mae capten Cymru Alun Wyn Jones ymysg rhai o’r chwaraewyr sydd heb gael eu cynnwys, gyda nifer o chwaraewyr wedi eu hanafu, gan gynnwys Jonathan Davies a Rhys Patchell.
Dyw maswr Northampton Dan Biggar ddim ar gael ar gyfer y gêm.
Ond daw’r prop Rob Evans, a fethodd Gwpan y Byd drwy anaf, yn ôl i mewn i’r garfan ac mae yno gyfleoedd i’r maswr Sam Davies a chwaraewr rheng-ôl y Dreigiau Ollie Griffiths.
“Cyfle gwych”
“Mae’n dda i gael cyhoeddi’r garfan a chael paratoi at ein gêm gyntaf wythnos nesaf,” meddai Wayne Pivac.
“Mae’r gêm hon yn erbyn y Barbariaid yn gyfle gwych i ni fel carfan a thîm rheoli newydd i ddod at ein gilydd a dechrau gweithio ar yr hyn rydym eisiau ei wneud.”