Bydd Cymru yn sicrhau eu lle yn Ewro 2020 os ydyn nhw’n curo Hwngari yng Nghaerdydd heno (Dydd Mawrth, Tachwedd 19).
Maen nhw eisoes wedi hawlio eu lle yn y gemau ail-gyfle ond dywed rheolwr tim pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, ei fod eisiau osgoi hynny ac ail-greu awyrgylch 2016.
“Os gallwn ni ail-greu’r awyrgylch yna, byddai hynny’n wych… Dw i’n meddwl ein bod ni wedi rhoi ein hunain mewn safle gwych. Mae gennym un gêm i fynd ac mae hi’n un anodd, felly mae’n rhaid i ni guro i ennill ein lle yn Ewro 2020.”
Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn holliach
Mae Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn holliach ar ôl eu hanafiadau diweddar.
Chwaraeodd Gareth Bale awr yn Baku cyn cael ei eilyddio am Aaron Ramsey, oedd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn yr ymgyrch Ewro 2020.
Mae Joe Allen hefyd yn dychwelyd wedi iddo gael ei wahardd.