Mae Neil Harris, rheolwr newydd tîm pêl-droed Caerdydd, yn mynnu nad “Neil Warnock II” yw e.
Cafodd cyn-reolwr Millwall ei benodi yr wythnos ddiwethaf yn dilyn ymadawiad annisgwyl y rheolwr oedd wedi bod wrth y llyw am dair blynedd.
Yn ôl rhai, mae gan Neil Harris ddull ac egwyddorion tebyg fel rheolwr ar sail ei gyfnod yn rheolwr ar dîm Millwall.
“Ro’n i gyda Millwall, oedd yn mynnu symud y bêl yn ei blaen yn gyflym a bod yn gorfforol yn y gêm,” meddai.
“Dw i am gadw at rai o’r egwyddorion hynny, ond dw i eisiau addasu oherwydd sut ydw i fel hyfforddwr.
“Nid Neil Warnock II ydw i. Fe yw fe, a dw i’n parchu hynny.
“Rhaid i fi barchu’r chwaraewyr sydd gyda fi hefyd ac allwn ni ddim newid dros nos.
“Mae’n rhaid bod yna broses ac mae hynny’n cymryd amser. Fydd yna ddim chwyldro dros nos. Dw i eisiau newid y diwylliant wrth fynd ymlaen, a cheisio adeiladu hyder o fewn y garfan.”
Pêl-droed ymosodol
Mae penaethiaid Caerdydd yn awyddus i sicrhau bod y tîm yn parhau i chwarae pêl-droed ymsodol.
Yr wythnos ddiwethaf cyn penodi Neil Harris, dywedodd y cadeirydd Mehmet Dalman eu bod nhw’n chwilio am reolwr a allai sicrhau “35 ergyd gywir at y gôl” ym mhob gêm – er mor annhebygol yw hynny.
“Dw i’n sicr ddim wedi gwneud unrhyw addewid i gael 35 ergyd mewn gêm!” meddai Neil Harris.
“Dw i ddim yn gwybod a yw’n bosib cael 35 ergyd mewn gêm!
“Ond rydyn ni eisiau chwarae pêl-droed ymosodol, gwthio’n uchel ac adennill y gêm yn uchel [i fyny’r cae].
“Mae llawer o ffyrdd o sgorio goliau.”
‘Difaru’ gadael Caerdydd fel chwaraewr
Yn y cyfamser, mae’n dweud ei fod e’n “difaru” gadael Caerdydd fel chwaraewr.
Symudodd e ar fenthyg i’r Adar Gleision yn 2004 ond fe ddaeth y cyfnod hwnnw i ben yn gynnar wrth iddo symud i Nottingham Forest – penderfyniad oedd wedi cael ei feirniadu ar y pryd.
“Fe wnes i gamgymeriad wrth beidio ag aros yma’n hirach,” meddai.
“Dw i’n dweud hynny â pharch at Nottingham Forest ond ar y pryd, fe wnes i benderfyniad teuluol am sawl rheswm.
“Fwy na thebyg fod hwn yn un o’r pethau dw i wir wedi’i ddifaru yn ystod fy ngyrfa bêl-droed hyd yn hyn.
“Ond dw i’n sicr yn falch ac yn freintiedig o gael eistedd yma.
“Rhaid i fi berswadio pobol, a dw i’n fodlon gwneud hynny.”