“Does dim esgusodion gyda ni, mêt” oedd yw ymateb Eddie Jones, prif hyfforddwr tîm rygbi Lloegr, ar ôl iddyn nhw gael eu chwalu o 32-12 gan Dde Affrica yn rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd.
Er i Syr Clive Woodward, y cyn-hyfforddwr, roi’r bai ar wendid y Saeson yn y sgrym, fe wnaeth y maswr George Ford wrthod rhoi’r bai ar y blaenwyr ar ôl y gêm.
“Wnaethon ni ei chael hi’n anodd mynd ar y droed flaen,” meddai Eddie Jones.
“Roedden nhw’n ymosodol iawn o amgylch y sgarmes ac yn ardal y dacl, ac fe wnaethon nhw ddominyddu yn y sgrym.
“Nid tan yn hwyr yn yr ail hanner y gwnaethon ni ddod yn agos yn y sgrym, ac mae’n anodd chwarae â’r bêl ar y droed ôl.”
Ond fe ddywedodd fod De Affrica’n “deilwng o ennill Cwpan y Byd”.
‘Esgus’
Awgrymodd ITV wrth gyfweld ag Eddie Jones fod y bws yn dod yn hwyr i gasglu’r tîm wedi cyfrannu at berfformiad siomedig.
Ond wfftiodd Eddie Jones hynny.
“Does dim esgusodion gyda ni, mêt,” meddai wrth ymateb i’r awgrym.
Un rheswm a gafodd ei awgrymu gan Syr Clive Woodward oedd fod De Affrica’n rhy gryf yn y sgrym.
“Does dim amheuaeth mai’r tîm gorau oedd wedi ennill,” meddai.
“Ar y lefel yma o rygbi, os na allwch chi sgrymio’n iawn, rydych chi’n mynd i ildio pum neu chwe chic gosb yn y sgrym yn erbyn tîm fel hwn.
“Rydych chi bob amser yn mynd i orffen yn ail.”
‘Dim bai ar y blaenwyr’
Serch hynny, mae’r maswr George Ford yn gwrthod rhoi’r bai ar y blaenwyr na’r sgrym.
“Rydych chi bob amser eisiau mynd ar y droed flaen ond alla i ddim rhoi’r bai ar y bois yn y blaen,” meddai.
“Maen nhw wedi bod yn rhagorol drwy gydol y twrnament.
“Wnaeth De Affrica jest ein trechu ni heddiw a rhaid i ni dderbyn hynny.”