De Affrica yw pencampwyr rygbi’r byd, ar ôl chwalu Lloegr o 32-12 yn Yokohama yn Japan.

Mae’n golygu mai Siya Kolisi, capten croenddu cynta’r wlad, yw’r chwaraewr croenddu cyntaf hefyd o’r wlad i godi’r tlws.

Ciciodd y maswr Handre Pollard 22 o bwyntiau, wrth i Makazole Mapimpi a Cheslin Kolbe groesi am geisiau yn yr ail hanner.

Ciciodd Owen Farrell bedair cic gosb i Loegr.

Dyma’r trydydd tro i Dde Affrica godi’r cwpan, ar ôl ennill y gystadleuaeth yn 1995 a 2007.