Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud y bydd yn rhaid i’w dîm fod yn barod i herio Wigan oddi cartref yn Stadiwm DW heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 2).

Byddai buddugoliaeth yn eu codi i frig y Bencampwriaeth.

Mae’r Elyrch yn ddi-guro oddi cartref yn y Bencampwriaeth o hyd, ond dydy Wigan ddim wedi colli yn eu pedair gêm ddiwethaf ar eu tomen eu hunain, a dydyn nhw ddim wedi ildio’r un gôl yn y gemau hynny.

Ond mae’r Elyrch yn mynd yno ar ôl yr hwb o ennill gêm ddarbi’r de yn erbyn Caerdydd yr wythnos ddiwethaf, gyda Steve Cooper yn galw ar ei dîm i ailadrodd y perfformiad hwnnw.

‘Gêm fawr’

“Mae’n gêm fawr yn erbyn Wigan ac rydym yn canolbwyntio’n fawr ar honno,” meddai’r rheolwr.

“Mae gan Wigan record anhygoel gartref, ac maen nhw’n eithaf dygn.

“Maen nhw’n sicr yn dîm sydd â chwaraewyr da ac maen nhw wedi buddsoddi rywfaint yn y garfan dros yr haf.

“Maen nhw’n chwarae i ennill, maen nhw’n sgorio goliau ac maen nhw’n gystadleuol.

“Mae’n gêm y mae’n rhaid i ni fod yn barod amdani, ac mi fyddwn ni.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen ati.”

Tîm Abertawe

Mae Joe Rodon, amddiffynnwr ifanc Cymru, allan am dri mis ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ffêr.

Mae Aldo Kalulu bron â bod yn barod i ddychwelyd i’r cae ar ôl deufis allan ag anaf i’w ffêr yntau hefyd.

Mae’r golwr Erwin Mulder allan o hyd ar ôl torri ei fys.