Mae Cheslin Kolbe, asgellwr tîm rygbi De Affrica, yn dychwelyd i’r asgell ar gyfer gêm derfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn erbyn Lloegr heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 2, 9 o’r gloch).
Mae e wedi gwella o anaf i’w ffêr wnaeth ei gadw e allan o’r gêm gyn-derfynol yn erbyn Cymru.
Yr un pymtheg sydd wedi’u henwi gan Eddie Jones, prif hyfforddwr Lloegr ar gyfer y gêm yn Yokohama.
Cyrhaeddodd y Saeson y rownd derfynol ar ôl buddugoliaeth annisgwyl dros Seland Newydd, tra bod De Affrica wedi curo Cymru.
Dydy Lloegr ddim wedi ennill Cwpan y Byd ers 2003.
Yn ôl ITV, fe wnaeth 10,000,000 o bobol wylio Lloegr yn curo’r Crysau Duon – bron i dri chwarter y gynulleifa deledu i gyd.
Ac mae darogan y byd miliwn o beintiau ychwanegol o gwrw’n cael eu gwerthu heddiw pe bai Lloegr yn fuddugol.