Cei Connah 1–1 Y Seintiau Newydd
Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Gei Connah groesawu’r Seintiau Newydd i Stadiwn Glannau Dyfrdwy yn y frwydr tua brig y Cymru Premier nos Wener.
Dechreuodd y ddau dîm y noson yn y tri uchaf ac ma’r Nomadiaid yn codi i’r brig ar wahaniaeth goliau wedi i gôl hwyr Mike Wilde achub pwynt iddynt mewn gêm lawn penderfyniadau dadleuol.
Daeth y cyntaf o’r penderfyniadau mawr hynny yn yr hanner cyntaf pan yr arhosodd George Horan ar y cae er gwaethaf taro pen elin yng ngwyneb gwrthwynebydd.
O ran cyfleoedd o flaen gôl cyn yr egwyl, daeth y gorau o’r rheiny i Dean Ebbe yn dilyn symudiad tîm slic ond anelodd ei ergyd yn rhy agos at Lewis Brass yn y gôl.
Di sgôr wrth droi felly ond gwnaeth Ebbe yn iawn am ei gamgymeriad ar yr awr, yn rhwydo yn y cwrt chwech i roi’r ymwelwyr ar y blaen wedi gwaith da Ryan Brobbel ar y chwith.
Gallai Cei Connah yn hawdd fod wedi mynd i lawr i ddeg dyn wedi hynny yn dilyn tacl wyllt gan Jamie Insall ond dihangodd yr eilydd gyda cherdyn melyn yn unig.
Ond parhau a wnaeth noson ddiddorol y dyfarnwr wrth iddo roi cic o’r smotyn i’r Seintiau oherwydd llawiad eithaf amlwg Danny Holmes, cyn newid ei feddwl ar ôl trafod gyda’r dyfarnwyr cynorthwyol!
A’r penderfyniad hwnnw a oedd y trobwynt wrth i Gei Connah unioni pethau ddau funud yn ddiweddarach, Wilde yn rhwydo wedi i Paul Harrison wyro cynnig gwreiddiol Insall i’w lwybr.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Seintiau yn drydydd ond yn codi Cei Connah i frig y tabl, dros nos o leiaf. Gall y Barri ddychwelyd i’r safle hwnnw gyda phwynt yng Nghaernarfon brynhawn Sadwrn.
.
Cei Connah
Tîm: Brass, Disney, Horan, Farquharson (Insall 45’), Holmes, Roberts (Dool 58’), Harrison (Bakare 45’), Morris, Poole, Wolfe, Wilde
Gôl: Wilde 82’
Cardiau Melyn: Roberts 9’, Horan 9’, Insall 73’, Bakare 77’, Disney 90+2’
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Harrington, Redmond, Marriott, Davies, Nembhard, Routledge, Brobbel, Edwards (Cieslewicz 86’), Mullan, Ebbe (Draper 70’)
Gôl: Ebbe 61’
Cardiau Melyn: Harrison 9’, Brobbel 84’