Leinster 50–15 Dreigiau
Cafodd y Dreigiau grasfa go iawn wrth iddynt deithio i Ddulyn i herio Leinster yn y Guinness Pro14 nos Wener.
Roedd talcen caled yn wynebu’r Cymry o’r dechrau wrth iddynt herio pencampwyr y tymor diwethaf sydd heb golli gêm y tymor hwn. Ac felly y profodd hi wrth i’r tîm cartref groesi am wyth cais ar yr RDS.
Wyth munud yn unig a gymerodd hi i Michael Bent groesi am y cyntaf o’r wyth cyn i Dave Kearney ychwanegu’r ail hanner ffordd trwy’r hanner.
Tarodd y Dreigiau yn ôl wedi hynny gyda chais Jordan Williams ond Leinster a orffennodd yr hanner orau wrth i Harry Byrne drosi ei gais ei hun, 19-8 y sgôr wrth droi.
Roedd y pwynt bonws yn ddiogel pan groesodd Ronan Kelleher am bedwerydd Leinster yn gynnar yn yr ail hanner ac roedd y gêm yn prysur fynd o gyrraedd y Dreigiau.
Dilynodd pumed cais yn fuan wedyn, un gorau y noson wrth i Kearney groesi am ei ail ef yn dilyn cic letraws berffaith Byrne.
Trodd hi’n grasfa wedi hynny wrth i’r tîm cartref sgorio tri chais arall mewn cyfnod o bum munud hanner ffordd trwy’r hanner, dau i’r asgellwr James Lowe o bobtu un i’r eilydd, Hugh O’Sullivan.
Golygodd hynny mai cais cysur yn unig a oedd ymdrech Owen Jenkins i’r Cymry, 50-15 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn gadael y Dreigiau yn bumed yn nhabl adran A y Pro14 gyda dwy fuddugoliaeth o’u pum gêm gyntaf.
.
Leinster
Ceisiau: Michael Bent 8’, Dave Kearney 21’, 46’, Harry Byrne 32’, Ronan Kelleher 43’, James Lowe 58’, 63’, Hugh O’Sullivan 61’
Trosiadau: Harry Byrne 22’, 34’, 59’, 62’, 64
.
Dreigiau
Ceisiau: Jordan Williams 28’, Owen Jenkins 80’
Trosiad: Sam Davies 80’
Cic Gosb: Sam Davies 19’