Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi naw newid i dîm rygbi Cymru i herio Seland Newydd ddydd Gwener (Tachwedd 1) yn y gêm i benderfynu pwy fydd yn cipio’r trydydd safle yng Nghwpan y Byd yn Japan.
Yn dilyn y newyddion fod Liam Williams allan am dri mis ag anaf i’w ffêr, daeth rhagor o newyddion drwg fod Leigh Halfpenny (cyfergyd), George North (llinyn y gâr), Tomas Francis (ysgwydd) ac Aaron Wainwright (llinyn y gâr) hefyd allan ar gyfer gêm ola’r prif hyfforddwr Warren Gatland wrth y llyw.
Yn dechrau’r gêm mae’r asgellwr Owen Lane, y prop Nicky Smith a’r blaenasgellwr James Davies.
Mae Hallam Amos am ddechrau’r gêm yn safle’r cefnwr, gydag Owen Watkin yn dechrau yn y canol wrth i Hadleigh Parkes gymryd ei le ar y fainc ar ôl dechrau’r chwe gêm hyd yn hyn.
Tomos Williams a Rhys Patchell fydd yn safle’r haneri, tra bo’r blaenasgellwr Justin Tipuric yn symud i ben draw’r sgrym a James Davies yn cymryd ei le ynghyd â Ross Moriarty i gwblhau triawd y rheng ôl.
Bydd Josh Adams yn dechrau ei seithfed gêm yn y gystadleuaeth, wrth geisio gorffen yn brif sgoriwr ceisiau Cwpan y Byd a mynd am y cais a fyddai’n golygu ei fod e’n gyfartal â record Shane Williams o chwe chais mewn un Cwpan Byd.
Liam Williams
Mae Warren Gatland yn dweud y gallai Liam Williams fod allan am dri mis ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ffêr.
Cafodd ei anafu wrth ymarfer yn Tokyo yr wythnos ddiwethaf, ac wedi dychwelyd i Gymru ers hynny am driniaeth.
Daeth Leigh Halfpenny i mewn i gymryd ei le ar gyfer y gêm gyn-derfynol yn erbyn De Affrica.
Mae’r anaf yn golygu na fydd e ar gael ar gyfer gemau grŵp y Saraseniaid yng Nghwpan Heineken, tra bod Cymru’n dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd ar Chwefror 1.
Lloegr i ennill Cwpan y Byd?
Yn y cyfamser, mae Warren Gatland yn dweud ei fod e’n disgwyl i Loegr ennill Cwpan y Byd.
Fe guron nhw Awstralia yn y rownd gyn-derfynol ac mae prif hyfforddwr Cymru, a fydd yn cael ei ddisodli gan Wayne Pivac ar ddiwedd Cwpan y Byd, yn dweud bod y Saeson ar eu gorau ar hyn o bryd.
“Ro’n i’n meddwl bod Lloegr yn wych yn erbyn y Crysau Duon – dyna’r gorau dw i wedi gweld Lloegr yn chwarae yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf.
“Ro’n i’n meddwl eu bod nhw’n rhagorol.
“Dw i’n credu y bydd yn rownd derfynol wych gyda dau dîm corfforol, a gobeithio y gall tîm o hemisffêr y gogledd ennill Cwpan y Byd.
“Dw i wedi bod yn ffodus o gael cyswllt personol â llawer o’r chwaraewyr drwy’r Llewod, a dw i am ddymuno’n dda iddyn nhw.”
Tîm Cymru: H Amos, O Lane, J Davies, O Watkin, J Adams, R Patchell, T Williams; N Smith, K Owens, D Lewis, A Beard, AW Jones (capten), J Tipuric, J Davies, R Moriarty.
Eilyddion: E Dee, R Carre, W Jones, J Ball, A Shingler, G Davies, D Biggar, H Parkes.