Mae Robin McBryde wedi cyfaddef ei fod yn genfigennus o’r hyfforddwyr sydd yn ei olynu yn y swydd gyda Chymru.

Fe fydd Robin McBryde, Shaun Edwards a Warren Gatland ill tri yn gadael y swyddi y marn ngw wedi’u dal ers 12 mlynedd ar ôl y gêm trydydd safle yn erbyn Seland Newydd ddydd Gwener (Tachwedd 2).

“Rydw i wedi cael fy amser, ond rydw i’n genfigennus o unrhyw hyfforddwr sydd am gael gweithio gyda’r chwaraewyr yma,” meddai Robin McBryde.

“Edrychwch ar oedran rhai o’r chwaraewyr a’r profiadau llwyddiannus maen nhw wedi eu cael…

“Mi fyddai’n brofiad cyffrous i unrhyw hyfforddwr gael gweithio efo nhw.”