Mae Eddie Jones wedi herio Warren Gatland, wedi i brif hyfforddwr Cymru gwestiynu os oedd chwaraewyr Lloegr “eisoes wedi chwarae eu ffeinal” yn erbyn Seland Newydd.

Roedd Warren Gatland yn siarad ar ôl i Gymru golli o 19-16 yn erbyn De Affrica.

“Rydym wedi gweld mewn pencampwriaethau Cwpan Byd blaenorol fod timau weithiau yn chwarae ei ffeinal yn y rownd gyn-derfynol a ddim yn troi lan ar gyfer y ffeinal,” meddai Warren Gatland.

Ymatebodd Eddie Jones drwy ddweud, “Wel, allwch chi anfon fy nymuniadau gorau i Warren er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn mwynhau’r gêm trydydd a phedwerydd safle.”

Nid dyma’r tro cyntaf i Warren Gatland ac Eddie Jones herio ei gilydd.

Ond fel prif hyfforddwyr Cymru a Lloegr dyma fydd y tro olaf, gan mai’r gêm yn erbyn Seland Newydd ddydd Gwener (Tachwedd 1) fydd un olaf Warren Gatland wrth y llyw.