Mae Cymru yn ffyddiog y gallan nhw guro Seland Newydd a chipio’r drydedd safle yn nghystadleuaeth Cwpan y Byd, yn ôl Justin Tipuric.

Daeth gobeithion bechgyn Warren Gatland o ennill y gystadleuaeth ryngwladol i ben dros y penwythnos ar ôl i Dde Affrica eu maeddu o 19 pwynt i 16.

Mae’n golygu mai’r Springbocs, ac nid y crysau cochion, fydd yn herio Lloegr yn y ffeinal yn Japan y  dydd Sadwrn nesaf (Tachwedd 2).

Bydd Cymru yn herio Seland Newydd y diwrnod blaenorol (Tachwedd 1) mewn gêm i benderfynu pwy fydd yn y drydedd a’r bedwaredd safle.

 “Gorffen ar uchafbwynt”

Dyw Cymru ddim wedi ennill yn erbyn Seland Newydd ers 1953, ac wedi colli 30 gêm yn olynol wrth ei hwynebu.

Ond dyw hynny ddim yn golygu nad yw Cymru yn barod i’w herio, yn ôl yr asgellwr, Justin Tipuric.

“Fel grŵp cyfan, byddai’n dda cael gorffen ar uchafbwynt, yn enwedig yn erbyn Seland Newydd,” meddai.

“Fe allen ni fod wedi creu hanes y penwythnos hwn [trwy gyrraedd ffeinal Cwpan y Byd], ond fe allwn orffen ar uchafbwynt trwy guro Seland Newydd.

“Mae cael y siawns o chwarae yn y crys coch yn erbyn Seland Newydd – un o dimoedd gorau’r byd – a chael y siawns o ddod y drydedd wlad orau yn y byd, ddim yn beth drwg ar ddiwedd y dydd.”

Ychwanegodd Justin Tipuric fod y siom yn erbyn De Affrica ddydd Sul (Hydref 27) wedi bod yn “anodd i’w derbyn”.