Mae Heddlu’r De yn canmol cefnogwyr timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd yn dilyn y gêm ddarbi yn Stadiwm Liberty heddiw (dydd Sul, Hydref 27).
Daeth cadarnhad mai pum person yn unig a gafodd eu harestio – tri am droseddau bychain yn erbyn y drefn gyhoeddus, un am ymosod ac un arall am fynd ar y cae.
Dywed yr heddlu fod y gêm wedi bod yn “achlysur llwyddiannus iawn” ar ôl misoedd o waith trefnu.
“Fe wnaeth y ddau set o gefnogwyr gyfrannu at yr awyrgylch gwych yn y gêm, a dw i am ddiolch iddyn nhw am y ffordd y gwnaethon nhw ymddwyn y prynhawn yma.
“Mae Heddlu’r De wedi bod yn cydweithio â chlybiau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd er mwyn cynllunio ar gyfer y gêm heddiw.
“Mae ymddygiad da y cefnogwyr, yn ogystal â’r stiwardio a phlismona effeithiol, wedi dod ynghyd i greu achlysur llawn mwynhad, ac wedi rhoi argraff bositif iawn o gemau darbi de Cymru.”