Y Gweilch 9 – 35 Caerwysg
Daeth rhediad gwych y Gweilch i ben nos Sadwrn yn Ne-orllewin Lloegr pan gollon nhw i Gaerwysg o 35-9. Cipiodd y tîm cartref bwynt bonws ar eu ffordd i fuddugoliaeth gyfforddus dros eu gwrthwynebwyr ifanc.
Rhoddodd y Gweilch wers sgrymio i Munster yn eu gêm ddiwethaf ond dyna’n union a gafodd y Gweilch gan flaenwyr pwerus Caerwysg. Daeth goruchafiaeth blaenwyr y tîm cartref i’r amlwg o’r dechrau wrth iddynt sicrhau cic gosb wedi 8 munud.
Pan gafodd olwyr y Gweilch y bêl, roeddent yn edrych yn beryglus dros ben, gyda Matthew Morgan, Kristian Phillips a Eli Walker yn creu tipyn o argraff gyda’r bêl yn eu dwylo. Pan gyfunodd Morgan a Phillips i lawr yr asgell dde roedd cais yn edrych yn anochel. Llwyddodd Habberfield y mewnwr i groesi’r linell fantais yn ogystal, ond i Barry Davies wastraffu’r cyfle â chic wallus 5 metr o’r llinell gais.
Dyma oedd cyfle gorau’r Gweilch drwy gydol yr ornest a bu rhaid i’r blaenwyr ddioddef crasfa am gyfnodau helaeth. Blaenwyr Caerwysg sicrhaodd y cais cyntaf, a hynny’n gais cosb wrth i’r Gweilch blygu dan bwysau yn y sgrym. Gwaith caib a rhaw wnaeth ddwyn ffrwyth unwaith eto i’r tîm cartref, pan hyrddiodd James Phillips yr ail reng drwy’r amddiffyn a thirio, i’r chwith o’r pyst. Y sgôr bellach yn 17-3 a’r gêm yn llithro o afael y Gweilch.
Bu’r Gweilch, ar brydiau, yn chwarae a thempo uchel, ac roedd rhaid i Gaerwysg droseddu sawl gwaith i sicrhau na fyddai’r Gweilch yn dod yn ôl fewn i’r gêm. Ymosododd y Gweilch â chic gan Habberfield i Walker roi cwrs. Wedi iddo gasglu’r bêl a’i gyflwyno a’r plât i’w fewnwr, daeth un o flaenwyr Caerwysg i fewn o ochr y sgarmes ac ymyrryd a Habberfield tra roedd yn camsefyll. Trosedd broffesiynol a allai wedi gweld y chwaraewr yn mynd i’r cell cosb. Llwyddodd Morgan â’r gic ac felly’r sgôr yn 17-6 ar yr hanner.
O ystyried goruchafiaeth lwyr Caerwysg yn y sgrymiau roedd yn syndod na aeth aelod o reng flaen y Gweilch i’r cell cosb am barhau i droseddu. Efallai bod mwy o empathi gan David Rose i’r chwaraewyr na’ Allan Rolland! Llwyddodd Steenson â dwy gol gosb ac ymestyn mantais y tîm cartref. Parhaodd blaenwyr Caerwysg i sicrhau meddiant glan i’w olwyr ac fe reolodd Steenson y gêm yn gelfydd.
Dangosodd olwyr Caerwysg eu bod hwythau yn gallu ymosod yn effeithiol. Pan dorron nhw drwy’r rhengoedd, doedd dim modd atal Phillip Dollman y canolwr cydnerth rhag croesi. Y cais olaf oedd y gorau un. Methodd Habberfield yr ystlys wrth geisio clirio a doedd dim ateb gan amddiffyn blinedig y Gweilch wrth i Gaerwysg fanteisio ar y meddiant annisgwyl a chreu lle i Tatupu groesi i’r chwith o’r pyst. Y sgôr terfynol felly yn 35-9.
Roedd y Gweilch yn euog o chwarae gormod o rygbi, ond o ystyried goruchafiaeth blaenwyr Caerwysg, yr unig opsiwn oedd gan yr ymwelwyr oedd ymosod o bellter a gobeithio y byddai eu holwyr disglair yn creu cyfle o ddim. Dydy’r gystadleuaeth hon ddim am fod yn hawdd i’r Gweilch. Efallai bydd angen cydbwysedd gwell o’r profiadol a’r ifanc, os ydynt am lwyddo i guro Northampton, fydd yn ymweld â’r Liberty y penwythnos yma.